Y Brifysgol yn cynnig Llwybrau at radd i oedolion sy'n dysgu
16 Mehefin 2015
Arddangos Llwybrau dysgu gradd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion
Mae oedolion sy'n dysgu ac sydd am ymgymryd â her addysgol newydd yn cael eu hannog i fynd i sesiynau gwybodaeth ar 18 Mehefin ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystod Wythnos Addysg Oedolion.
Bydd y sesiynau'n tynnu sylw at ystod o raglenni Llwybrau'r Brifysgol – cyrsiau rhan-amser anffurfiol a gefnogir, i roi blas i ddysgwyr o sut beth yw astudio ar gyfer gradd.
Caiff Llwybrau eu haddysgu'n rhan-amser, ac maent wedi'u hanelu at y rheini sydd â phrofiad bywyd, y mae'n bosibl nad oes ganddynt gymwysterau blaenorol, neu sydd heb fod ym myd addysg ffurfiol ers sawl blwyddyn.
Cynhelir y sesiynau anffurfiol hyn ar gyfer pobl sydd am ddysgu mwy ar 18 Mehefin rhwng hanner dydd a 2pm neu rhwng 6pm a 7pm, yn Nghanolfan Dysgu Gydol Oes y Brifysgol.
Bydd y sesiynau'n cyflwyno'r sawl sy'n cymryd rhan i'r rhaglenni Llwybrau, sy'n cael eu cynnig mewn amrywiaeth o bynciau dewisol, gan gynnwys:
- Rheoli Busnes, Cyfrifyddu neu Gyfrifyddu a Chyllid
- Saesneg Iaith, Llenyddiaeth neu Athroniaeth (Naratifau Mewnol)
- Hanes, Archaeoleg neu Grefydd (Archwilio'r Gorffennol)
- Newyddiaduraeth, y Cyfryngau neu Astudiaethau Diwylliannol (Ein Cyfryngau, Ein Byd)
- Ieithoedd Modern neu Astudiaethau Cyfieithu
- Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol
- Y Gwyddorau Cymdeithasol
Mae llawer o fyfyrwyr sy'n cofrestru ar raglenni Llwybrau yn mynd yn eu blaen i ennill gradd lawn, gan gynnwys Andy Parker, 48 oed, a fydd yn graddio gyda Gradd BA Cyd-anrhydedd mewn Hanes yr Henfyd.
Dywedodd Andy: "O'm mhrofiad i, nid yw oedran yn rhwystr - ac mewn rhai ffyrdd, mae hyd yn oed yn fantais! Rwyf ar fin gorffen fy mlwyddyn olaf o astudio ar gyfer Gradd Cyd-anrhydedd mewn Hanes yr Henfyd a Hanes, rhywbeth nad oeddwn yn siŵr y byddai'n ymarferol nac yn gyraeddadwy ychydig flynyddoedd yn ôl, ond sydd wedi bod yn uchelgais i mi erioed. Rwy'n credu fy mod wedi dysgu llawer amdanaf fi fy hun yn ystod y tair blynedd diwethaf, ac efallai'n bwysicach byth, am sut rwyf wedi newid ers i mi astudio ddiwethaf. Rwyf wedi dysgu nad yw fy nghof mor dda ag ydoedd 30 mlynedd yn ôl, ond mae'r profiadau rwyf wedi'u cael yn ystod y blynyddoedd hynny wedi bod o fantais mawr."
Dywedodd Dr Zbig Sobiesierski, Deon Dysgu Gydol Oes:
"Mae Llwybrau at Radd yn annog oedolion i ddysgu. Maent hefyd yn gwneud yn siŵr bod Addysg Uwch ar gael i fyfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd, ac yn cynnig cyfleoedd a all newid bywydau. Yn 2014/15, roedd bron i 30 o fyfyrwyr yn gallu cychwyn ar eu hastudiaethau gradd dewisol yng Nghaerdydd, ar ôl cwblhau Llwybr yn llwyddiannus gyda Chanolfan Dysgu Gydol Oes Caerdydd."