Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dyfarnu rôl lysgenhadol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
15 Mawrth 2018
Mae dwy o fyfyrwyr y Gyfraith wedi’u penodi’n llysgenhadon addysg cyfrwng Cymraeg gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cystadlodd Nest Jenkins a Gwenllian Owen – y naill ar ei blwyddyn gyntaf a’r llall ar ei hail flwyddyn yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth – am y rolau llysgenhadol, yn erbyn cannoedd o fyfyrwyr ar draws Cymru sy’n astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda phrifysgolion ledled y wlad i sicrhau bod cyfleoedd dysgu ar gyfer myfyrwyr sydd am astudio yn y Gymraeg. Yn ogystal, maent yn cynnig cyfleoedd hyfforddi ac ariannu ar gyfer darlithwyr cyfrwng Cymraeg ac yn cynnig ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedig.
Er mwyn hyrwyddo eu gwaith a’r cyfleoedd sydd ar gael, mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn penodi grŵp o lysgenhadon bob blwyddyn i'w cynrychioli mewn prifysgolion, digwyddiadau UCAS ac Eisteddfodau. Mae Llysgenhadon hefyd yn rhoi cyflwyniadau mewn ysgolion er mwyn rhoi blas ar fywyd myfyrwyr cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion iau.
Mae'r amrywiaeth o gyrsiau cyfrwng Cymraeg sydd ar gael i fyfyrwyr wedi ehangu'n sylweddol dros y blynyddoedd diweddar ledled Cymru. Bellach mae dros oddeutu 1,000 o gyrsiau i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg ar draws y wlad, yn ogystal â thros 150 o ysgoloriaethau israddedig a ddyfernir i fyfyrwyr bob blwyddyn.
Mae Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi ymrwymo i ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i’w myfyrwyr o ran yr iaith Gymraeg. Mae modiwlau a addysgir yn Gymraeg ar gael ar gyfer pob myfyriwr y Gyfraith a Gwleidyddiaeth a myfyrwyr Cysylltiadau Rhyngwladol, ac rydym hefyd yn cynnig y modiwl Datganoli yng Nghymru, sy’n cael ei addysgu yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Gall myfyrwyr hefyd wneud eu traethodau hir yn Gymraeg, yn y flwyddyn olaf.
Mae ein holl raddau’n gymwys ar gyfer prif ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol a’r Ysgoloriaethau Cymhelliant. Mae gradd LLB Y Gyfraith a Chymraeg hefyd yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth nodedig William Salesbury. Mae’r ysgoloriaethau yn cynnig gwobrau ariannol o hyd at £1,000 y flwyddyn, profiad gwaith, yn ogystal â chyfle i gael Tystysgrif Sgiliau Cymru.
Mae’r llysgennad newydd, Nest, wedi manteisio'n llawn ar y cyfleoedd y mae’r Coleg Cymraeg Cendlaethol wedi’u cynnig iddi, a hi oedd enillydd balch Ysgoloriaeth William Salesbury yn 2017. 8 Mai 2018 yw’r dyddiad cau ar gyfer Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Wrth siarad am ei rôl newydd, dywedodd Nest, “Rwy’n ffodus iawn i gael cymorth ariannol gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol felly mae’n fraint bod yn llysgennad ar eu cyfer. Yn y flwyddyn sydd i ddod, hoffwn i barhau gyda gwaith da’r Coleg drwy farchnata’r cyfleoedd posibl ar gyfer darpar fyfyrwyr a myfyrwyr presennol.”
Adleisiodd ei chyd-llysgennad, Gwenllian, ymdeimlad Nest a dweud, “Rydw i'n teimlo anrhydedd mawr o gael fy newis fel llysgennad. Rydw i’n teimlo ei bod yn bwysig iawn defnyddio eich Cymraeg gan y gall agor llawer o ddrysau i chi. Rwy'n edrych ymlaen at hyrwyddo'r gwaith arbennig mae'r Coleg yn ei wneud. Rwy'n arbennig o awyddus i annog pobl ifanc o deuluoedd di-Gymraeg i beidio ag ofni dilyn cwrs yn Gymraeg achos bod y gefnogaeth sydd ar gael yn ardderchog.”