Datrys dirgelwch oesoedd yr iâ gan ddefnyddio moleciwlau hynafol
9 Mawrth 2018
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd wedi datgelu sut mae iâ y môr wedi cyfrannu at ddyfodiad a diflaniad haenau iâ dros y miliwn o flynyddoedd diwethaf.
Mewn astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Nature Communications, mae’r tîm wedi dangos am y tro cyntaf fod oesoedd yr iâ, sy’n digwydd bob 100,000 mlynedd, yn dod law yn llaw â chroniad cyflym o iâ y môr yng nghefnforoedd y Ddaear.
Roedd oesoedd iâ ein planed yn arfer digwydd bob 40,000 o flynyddoedd. Roedd hyn yn gwneud synnwyr i wyddonwyr gan fod tymhorau'r Ddaear yn amrywio mewn ffyrdd disgwyliedig, gyda hafau oerach yn ystod yr adegau hyn. Fodd bynnag, digwyddodd rhywbeth ar adeg penodol tua miliwn o flynyddoedd yn ôl. 'Canolbwynt y Cyfnod Pleistostenaidd' yw'r enw ar yr adeg o dan sylw, ac fe newidiodd y cyfnodau rhwng yr oesoedd yr iâ o fod pob 40,000 mlynedd i bob 100,000 mlynedd.
Mae’r rheswm pam mae oesoedd yr iâ yn digwydd yn ôl y graddfeydd amser hyn wedi bod yn ddirgelwch i wyddonwyr am amser hir.
Drwy olrhain moleciwlau sy’n cael eu creu gan algâu morol bychain a gedwir mewn gwaddodion cefnforol, mae’r tîm wedi gallu ail-greu’r amodau iâ-môr yn ystod Canolbwynt y Cyfnod Pleistostenaidd.
Dangosodd eu canlyniadau fod cynnydd pendant yn hyd a lled iâ y môr, a newid yn rhythm croniad iâ y môr ar draws y cylchredau hinsawdd, wedi digwydd yr un pryd â’r newid yng nghylchredau oesoedd yr iâ o 40,000 i 100,000 o flynyddoedd.
“Cyn Canolbwynt y Cyfnod Pleistostenaidd, roedd croniad a dirywiad iâ y môr yn ystod oesoedd yr iâ yn fwy graddol. Ar ddiwedd y Pleistosen, ar y llaw arall, pan newidiodd cylchredau oesoedd yr iâ, gwelsom amodau oedd yn cynnwys uchafbwynt amlwg byrhoedlog mewn hyd a lled iâ y môr yn ystod yr oesoedd iâ diweddarach,” dywedodd Henrieka Detlef a arweiniodd yr ymchwil. Mae hi’n ymchwilydd ôl-raddedig yn Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Gyda llai o ddŵr yn anweddu i’r atmosffer, byddai llai o leithder yn cael ei gludo i rewlifoedd cyfandirol. Byddai hyn, yn ei dro, yn achosi iddynt encilio a helpu’r newid o oes yr iâ i gyfnod cynhesach.
“Mae’n amlwg fod gan iâ y môr rôl sylfaenol wrth symud o oes yr iâ i’r cyfnod cynnes bob 100,000 mlynedd,” aeth Detlef yn ei blaen.
Mae deall sut mae iâ y môr yn rhyngweithio â’r cefnforeg a’r ecosystem rhanbarthol yn arbennig o bwysig wrth ystyried newid hinsawdd anthropogenig a gorchudd iâ y môr sy’n crebachu’n gyflym yng Nghefnfor yr Arctig. Mae ein hastudiaeth yn gam pwysig ymlaen er mwyn deall rôl iâ y môr wrth ystyried newid hirdymor yr hinsawdd.”
Arweiniwyd y prosiect gan Brifysgol Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Plymouth, Prifysgol Caerwysg a Sefydliad Pegynol Norwy.