Pobl ifanc yn astudio Ffrangeg i elwa ar hyfforddiant ychwanegol
9 Mawrth 2018
Cynhelir Turbo Tutoring gan Yr Ysgol Ieithoedd Modern ac mae’n rhan o ‘Strategaeth Dyfodol Byd-eang’ Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio ehangu a hyrwyddo dewis ieithoedd modern mewn ysgolion.
Y llynedd, helpodd y prosiect 84 o fyfyrwyr o wyth ysgol uwchradd a phedwar coleg addysg bellach i gyflawni marciau uwch nag y rhagwelwyd ar eu cyfer yn eu harholiadau Ffrangeg Lefel UG. Mae myfyrwyr sy’n derbyn Turbo Tutoring yn ennill un radd yn uwch nag amcangyfrifon athrawon ar gyfartaledd. Bydd y rhaglen ddiweddaraf, a gychwynnodd y mis hwn (mis Chwefror) yn helpu carfan o faint tebyg, o ddeuddeg o ysgolion a cholegau, diolch i £40,000 o gyllid ychwanegol.
Cyflwynir rhaglen ddwys ddeg-wythnos gan athrawon profiadol. Bydd dysgwyr yn cael gwersi mewn grwpiau bychain neu un-wrth-un, gyda’r addysgu’n cael ei deilwra yn ôl anghenion pob myfyriwr. Cwmpesir meysydd megis sgiliau gwrando, ysgrifennu traethodau, gramadeg, cyfieithu, a thechnegau arholiadau.
Ymateb uniongyrchol i’r gostyngiad yn niferoedd y disgyblion sy’n dewis astudio ieithoedd modern at Lefel UG yw Turbo Tutoring. Mae athrawon yn adrodd bod rhai dysgwyr sy’n dewis astudio ieithoedd at Lefel UG yn newid eu meddyliau hanner ffordd drwy’r cwrs, am eu bod nhw’n cael yr arholiadau’n anodd o gymharu â’r pynciau eraill maent wedi eu dewis.
Nod y cynllun yw gwella graddau a chanlyniadau’r myfyrwyr sy’n cymryd rhan, a’u cefnogi wrth iddynt symud ymlaen i Safon Uwch. Bydd dysgwyr ac athrawon hefyd yn cael cymorth ac arweiniad ychwanegol wrth i gwricwlwm newydd gael ei sefydlu.
Yn sgîl cam cyntaf y prosiect peilot a gyflwynwyd rhwng mis Chwefror a mis Ebrill y llynedd cafwyd canlyniadau cadarnhaol ar gyfer myfyrwyr a gymerodd ran. Gobeithir y bydd y cam nesaf yn adeiladu ymhellach ar y llwyddiant hwn.
Dywedodd yr Athro Claire Gorrara, o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd ac arweinydd academaidd prosiect Turbo Tutoring: “Mae dysgu’r Ffrangeg yn fantais anferthol i fyfyrwyr. Mae’n rhoi mantais anferthol iddynt wrth ymuno â byd gwaith, ond yn bwysicach, mae’n magu hyder ynddynt ac yn gwella eu sgiliau cyfathrebu..."
“Mae’r ffigyrau’n dangos bod y math hwn o brosiect yn gallu cael effaith sylweddol. Rydym yn falch i fod wedi cael y cyfle i gefnogi rhagor o bobl ifainc wrth iddynt geisio cael y mwyaf o’u hastudiaethau.”
Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: "Mae'n galonogol iawn gweld pa mor dda mae’r rhaglen hon yn perfformio. Diolch i’r cyllid a ddarparwyd drwy ein menter Dyfodol Byd-eang, mae rhagor byth o ddysgwyr bellach yn gallu cael mynediad at y mathau hyn o gyfleoedd. Mae hynny’n hanfodol os ydym am gynyddu’r niferoedd sy’n astudio Ieithoedd Modern Tramor a dangos sut gallant arwain at lawer o ddewisiadau gyrfaol gwahanol a chyffrous.
Cymerodd Alexis Swanwick, 17 oed, ran yn y cynllun y llynedd. Mae bellach yn astudio tuag at ei Safon Uwch yn y Ffrangeg.
Dywedodd: “Mae Turbo Tutoring wedi cael effaith fawr ar fy nysgu. Roedd y naid o TGAU i Lefel UG yn enfawr. Roedd y mentor yn wybodus iawn ac fe wnaeth ein tywys drwy dechnegau arholiadau. Mae’r cynllun wedi cynyddu fy hyder, a rhoi sgiliau penodol i mi a’m sicrhau fy mod yn gallu pasio’r arholiad. O ganlyniad, fe wnes i barhau â’r Ffrangeg ar gyfer fy astudiaeth Lefel Uwch.