Mae Gemau'r Ymennydd yn ôl (dydd Sul 18 Mawrth, 11.00 – 16.00)
9 Mawrth 2018
O ddelweddau synhwyraidd a domau ymennydd pwmpiadwy i ddwylo ysbryd a ‘llawdriniaeth DIY ar yr ymennydd’ – mae Gêm yr Ymennydd yn arddangos pŵer a dirgelwch ein organ mwyaf hanfodol.
Mae croeso i bawb ddod i ymuno â'r hwyl, cymryd rhan yn ein heriau, a chystadlu yn erbyn eich ffrindiau, tra'n dysgu am ryfeddodau eich ymennydd!
Er bod y gemau wedi'u hanelu at blant rhwng 7 a 11 oed (Cyfnod Allweddol 2), mae'n ddiwrnod allan hwyl i'r teulu cyfan ac mae mynediad am ddim i bawb. Bydd y gemau'n cloi cyfraniadau'r Brifysgol yn Wythnos Wyddoniaeth Prydain ac Wythnos Ymwybyddiaeth yr Ymennydd ac yn rhoi cyfle i chi gwrdd â llawer o niwrowyddonwyr Prifysgol Caerdydd.
Dywedodd Emma Lane, uwch ddarlithydd a niwrowyddonydd ym Mhrifysgol Caerdydd, sy'n gwneud gwaith arloesol ynghylch clefyd Parkinson, a phrif drefnydd y digwyddiad, "Mae Gemau'r Ymennydd wedi'i ddylunio i ysbrydoli cenhedlaeth newydd o wyddonwyr ymennydd a hysbysu pobl am ein hymchwil, gan ddod â gwaith niwrowyddorau ar draws Prifysgol Caerdydd ynghyd."
Crëwyd rhaglen Gemau'r Ymennydd gan yr Athro Derek Jones a Frank Sengpiel, ac erbyn hyn mae wedi'i hen sefydlu – dyma ddigwyddiad ymgysylltu mwyaf Prifysgol Caerdydd. Mae'r digwyddiad yn dyblu nifer y bobl sy'n ymweld â'r ymennydd mewn diwrnod i bron i 4000 o bobl, ac mae'n debyg mai eleni fydd y flwyddyn orau hyd yma. O blith yr holl weithgareddau, bydd rhai hen ffefrynnau'n dychwelyd, ond bydd gemau newydd hefyd a sioeau sy'n tynnu sylw at rai o nodweddion rhyfeddol yr ymennydd.
Er mai prif nod y diwrnod yw cynnig ffordd hwyl o addysgu plant am yr ymennydd a rhai o'r ymchwil gyffrous ym Mhrifysgol Caerdydd, ei nod hefyd yw ysbrydoli plant, yn enwedig merched ifanc, i gymryd rhan mewn gwyddoniaeth. Rhan o strategaeth Prifysgol Caerdydd ar gyfer y dyfodol yw ymgysylltu â'r gymuned leol, nid yn unig i godi ymwybyddiaeth o'r gwaith addysgu ac ymchwil rhagorol, ond hefyd i gyfleu'r neges bod addysg uwch i bawb, beth bynnag eich cefndir, rhyw neu amgylchiadau.
Mae gweithgareddau eleni'n cynnwys:
- Genynnau Anferth – gweithgaredd newydd sy'n helpu i esbonio sut mae niwed i'n gennynnau yn gallu achosi clefydau sy'n effeithio ar yr ymennydd. Rhowch gynnig ar ein haddasiad o gêm adeiladu i weld pa mor sefydlog fydd eich genynnau!
- Gêm Saethu Chwithig – gweithgaredd lle mae pobl yn gwneud nifer o weithgareddau tra'n gwisgo gogls prism sy'n symud eu golwg i un ochr tua 30˚. Mae'r gweithgaredd cyntaf yn cynnwys siarad â chyfranogwyr tra'n gwisgo gogls wrth gynnal prawf taro bys. Yna byddwn yn egluro sut rydym yn 'ail-fapio'r ymennydd' i ymateb i'r newid 30˚ yn ein golwg. Ar ôl hyn bydd yr hwyl yn dechrau wrth i ni dynnu'r gynnau Nerf allan! Yn gyntaf byddwn yn gofyn i'r plant saethu'r targedau heb y gogls prism, ac yna unwaith eto gyda'r gogls ymlaen. Byddant yn gweld eu bod yn gwella'n araf wrth i'r ymennydd addasu.
- Beth yw'r Blas? – dyw'r hyn a welwch ddim yr un peth â'r hyn a gewch yn y gêm hon, sy'n seiliedig ar y syniad bod modd drysu ein synnwyr blasu os ydym yn rhoi llawer o wybodaeth arall i'n llygaid. A yw diod goch, gyda mwyar coch o'i chwmpas, yn blasu fel mefus mewn gwirionedd?
Mae llawer o gemau a gweithgareddau eraill i'r plant eu mwynhau, gan gynnwys Dôm Ymennydd unigryw Prifysgol Caerdydd, sef ymennydd dynol aer sy'n bownsio. Bydd gennym hefyd ymennyddiau anifeiliaid 3D, arddangosfeydd gwyddoniaeth, gweithgareddau ymarferol, a llawer mwy, gyda'r nod o arddangos natur ryfedd a rhyfeddol ein hymennydd anhygoel.
Gallwch ddilyn Gemau'r Ymennydd ar Facebook neu Twitter @braingamesCU