Dadansoddiad diweddaraf o dlodi mewn gwaith
9 Mawrth 2018
Mae chwarter o’r bobl sy'n byw mewn aelwydydd di-waith yn parhau i fyw mewn tlodi hyd yn oed os ydynt yn cael gweithiwr, yn ôl dadansoddiad gan academyddion Prifysgol Caerdydd.
Daeth i’r amlwg hefyd yn yr ymchwil i dlodi mewn gwaith gan Dr Rod Hick o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol, a Dr Alba Lanau o Brifysgol Bryste, bod nifer anghymesur o deuluoedd gyda phlant a rhieni unigol yn y grŵp hwn.
Mae’r papur, ‘Moving In and Out of In-work Poverty in the UK: An Analysis of Transitions, Trajectories and Trigger Events’, yn seiliedig ar ddadansoddiad o dlodi mewn gwaith yn dilyn aelwydydd dros gyfnod o bedair mlynedd – rhwng 2010/11/ a 2013/14. Mae'n canfod nad oes llawer o symud i mewn i dlodi mewn gwaith, ac allan ohono. Mae'r newidiadau i amgylchiadau all godi aelwyd allan o dlodi yn cynnwys codiad cyflog neu cynnydd yn y nifer o bobl sy’n gweithio.
Fodd bynnag, mae'r papur hefyd yn amlygu natur ansefydlog y gwaith ar gyfer rhai mewn tlodi. Yn ôl canfyddiadau, mae pobl sy'n byw mewn aelwydydd tlawd sy'n gweithio dair gwaith yn fwy tebygol o golli gwaith na'r rhai mewn aelwydydd sy'n gweithio na ystyrir eu bod yn dlawd.
Wrth edrych ar dlodi mewn gwaith fesul rhanbarthau, canfu dadansoddiad mai Gogledd Iwerddon yw’r ardal o'r DU lle mae pobl yn fwy tebygol o fynd i weithio mewn tlodi ac yn llai tebygol o adael y cyflwr hwnnw, o gymharu â phobl sy'n byw yn Lloegr.
Yn ôl Dr Hick, wnaeth gynnal y gwaith ymchwil: “Tra bod teuluoedd tlawd yn gweithio mewn gwirionedd, ar gyfartaledd, mae eu sefyllfa’n fwy agored i niwed ac yn ansicr o gymharu â’r rheini mewn gwell safle o ran dosbarthiad incwm. Prin iawn y gallant fforddio colli gweithiwr, neu weithio llai o oriau, ac mae hyn siociau negyddol hyn yn helpu i esbonio’r newid i ddiffyg gweithio.
“Ar y llaw arall nid yw dod o hyd i waith, ar gyfer llawer gormod o deuluoedd di-waith, yn eu hachub rhag tlodi.
Yn y ddau achos, mae angen polisi i gefnogi’r rheini ag ymlyniad gwan i’r farchnad lafur wan ac, yn enwedig, teuluoedd â phlant. Dim ond pan ddaw hyn yn realiti y gellir dweud yn ddiffuant bod gwaith yn sicrhau ffordd allan o dlodi.”
Y papur ymchwil, a gyhoeddwyd yn y Journal of Social Policy, yw’r diweddaraf mewn astudiaeth o dlodi mewn gwaith, a ariennir gan y Sefydliad Nuffield.