Cydraddoldeb rhwng dynion a menywod yng Nghymru
8 Mawrth 2018
Yn ddiweddar, ymunodd academydd o Brifysgol Caerdydd â’r Prif Weinidog, Carwyn Jones yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd i drafod sut mae Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb rhwng dynion a menywod.
Roedd yr Athro Emma Renold, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yno hefyd gyda La-Chun Lindsay o GE Aviation a Purna Sen, Cyfarwyddwr Polisi’r Cenhedloedd Unedig – Menywod, i drafod yr heriau, y cynnydd a’r camau sy’n cael eu ym maes cydraddoldeb rhwng dynion a menywod yng Nghymru ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.
Ar y panel, siaradodd yr Athro Renold am y dylanwad a gafodd plant a phobl ifanc ar Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Llywodraeth Cymru, drwy gyfrwng cyfres o ddulliau gweithredu creadigol. Yn ogystal, buon nhw’n trafod y broses o greu adnodd naturiol arloesol, AGENDA, teclyn dwyieithog ar-lein rhad ac am ddim a grëwyd gyda phobl ifanc i’w helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch – ac i herio – anghydraddoldebau, trais a gormes ar sail rhywedd. Fe'i datblygwyd gan yr Athro Renold mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Plant Cymru, NSPCC Cymru, Cymorth i Fenywod Cymru a Llywodraeth Cymru.
Drwy gyfrwng ffilm, gwrthrychau a sain, o’r platiau ‘dechrau-ailddechrau’ gyda negeseuon ar gyfer newid, i ymgyrchu ruler-skirt, dathlodd yr Athro Renold yr hyn a fu’n bosibl ei gyflawni yng Nghymru, a’r modd y mae’r gweithgareddau hynny’n adeiladu ar etifeddiaeth Cymru o hyrwyddo hawliau plant a chydraddoldeb rhwng dynion a menywod.
Yn ogystal, trafododd yr Athro Renold yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017 gan banel arbenigol Llywodraeth Cymru ar ddyfodol y Cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru, ac argymhellion y panel ar drawsnewid y modd yr addysgir y pwnc mewn ysgolion.
Amlinellodd y panel eu gweledigaeth ar gyfer cydraddoldeb newydd rhwng dynion a menywod a hawliau cwricwlwm ar sail rhywioldeb a pherthnasoedd sy'n berthnasol ac yn ymatebol i faterion go iawn sy'n effeithio ar fywydau holl blant a phobl ifanc.
Yn ôl yr Athro Renold: “Braint ac anrhydedd oedd cael y cyfle i gyflwyno’r ffyrdd creadigol y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi bod yn llywio a llunio polisïau ac ymarfer, o'r ystafell ddosbarth i'r Senedd. Hon oedd eu moment #metoo a pha le gwell na’r Cenhedloedd Unedig i leisio barn am y materion sy’n bwysig iddynt hwy?”
O ganlyniad i'r digwyddiad, cyflwynir enghreifftiau o waith yr Athro Renold i Grŵp Gwaith y Cenhedloedd Unedig ar Gyfeiriadedd Merched yn eu Harddegau.