Cydnabyddiaeth ledled y deyrnas
6 Mawrth 2018
Mae dau o fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd wedi’u cydnabod am lwyddo mewn lleoliad gwaith ac interniaeth yn ystod seremoni flynyddol Gwobrau Cenedlaethol Cyflogadwyedd Israddedigion yn Llundain.
Cipiodd Elizabeth Pescud, sydd ym mlwyddyn olaf cwrs BSc Rheoli Busnes, Wobr y Myfyriwr Lleoliad Gorau ac enillodd, Ryan Hale, sydd yn yr un dosbarth, Wobr yr Intern Gorau.
Canmolwyd y ddau enillydd, sy’n astudio yn Ysgol Busnes Caerdydd, am eu cyfraniadau rhagorol i’r cwmnïau lle roedden nhw wedi bod yn gweithio.
Meddai Elizabeth, a dreuliodd flwyddyn ei lleoliad integredig yn swydd ymgynghorydd technegol gyda chwmni Deloitte yn y Swistir: “Ar ôl profiad mor anhygoel, mae’n wych ein bod wedi’n cydnabod trwy’r deyrnas gyfan o ganlyniad i’r gwobrau yma...”
Cwblhaodd Ryan ei interniaeth gyda chwmni Trenau Arriva Cymru gan helpu i gynllunio ar gyfer Rownd Derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn rhan o BSc Rheoli Busnes gyda Lleoliad Gwaith Integredig. Mae'r cwrs gradd unigryw hwn yn cynnig cyfle i weithio am 20 wythnos o fewn rhaglen astudio dair blynedd, ac ennill credydau yr un pryd.
“Doeddwn i ddim yn disgwyl cydnabyddiaeth trwy’r deyrnas gyfan am fy waith yno, fodd bynnag. Felly, rwy’n falch iawn o ennill Gwobr yr Intern Gorau.”
Yn ogystal ag Elizabeth a Ryan, cyrhaeddodd Alex Stickler, myfyriwr BSc Econ Economeg a Chyllid ac enillydd 2017 TARGETjobs’ One to Watch, restr fer y gystadleuaeth. Ac yntau’n cystadlu yng nghategori’r Intern Gorau, roedd tri myfyriwr o’r ysgol yno - mwy nag unrhyw ysgol arall yn y deyrnas.
Meddai’r Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae hyn yn gamp sylweddol a hoffwn longyfarch yn bersonol Elizabeth, Ryan ac Alex ar ran pawb yn yr ysgol…”
“Mae Elizabeth a Ryan wedi rhagori ar hynny trwy ennill clod ledled y deyrnas. Maen nhw’n llysgenhadon dros wasanaethau gyrfaoedd a chyflogadwyedd yr ysgol, a hoffwn i ddymuno pob llwyddiant iddyn nhw ar ôl dechrau ym myd busnes yr haf yma.”
Bu dros 500 o bobl yn achlysur y gwobrwyo i ganmol llwyddiant eithriadol cyflogwyr, myfyrwyr a phrifysgolion o ran profiad gwaith israddedigion.
Clywon nhw areithiau ysgogol gan aelod o dîm paralympaidd Prydain Fawr, Ade Adepitan MBE, prif weithredwr Sefydliad y Cyflogwyr Myfyrwyr, Stephen Isherwood, un o uwch ymgynghorwyr cwmni Gradconsult, Mike Grey, ac un o bartneriaid cwmni White Label, Cathy Hyde.
Ychwanegodd y Dr Sue Bartlett, Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd a Sgiliau Ysgol Busnes Caerdydd: “Rydyn ni’n cydweithio’n agos iawn a chymunedau busnes lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i gynnig cyfleoedd i’n hisraddedigion gael profiad o waith...”
Mae rhagor o wybodaeth am yr amrywiaeth o gyfleoedd i gael profiad o waith wrth astudio ar gyfer eich gradd gyntaf gan Alex Hicks, Rheolwr Lleoli Ysgol Busnes Caerdydd.