Ewch i’r prif gynnwys

Moch barfog yn addasu i olew palmwydd

6 Mawrth 2018

Bearded pigs

Mae moch barfog yn Borneo yn addasu’n llwyddiannus i ehangu’r diwydiant olew palmwydd ond mae angen ardaloedd coediog sylweddol wedi’u diogelu arnynt o hyd, yn ôl ymchwil newydd gan Adran Bywyd Gwyllt Sabah, Canolfan Maes Danau Girang a Phrifysgol Berkeley.

Canfu’r astudiaeth fod y moch, sy’n adnabyddus am y blew hir ar eu hwynebau, i’w cael yn gyson mewn ardaloedd coediog sydd wedi dirywio, a’r planhigfeydd olew palmwydd cyfagos, a’u bod mewn cyflwr corfforol da er gwaethaf dirywiad coedwigoedd cyfagos.

Mewn rhannau o Swmatra a Borneo, mae’r rhywogaeth wedi bod ar drai cyflym mewn nifer o ardaloedd wrth i amaethyddiaeth olew palmwydd ehangu. Canfu’r ymchwil ar y cyd, er gwaethaf distrywio’u cynefin, fod moch barfog yn dod o hyd i ffyrdd o oroesi’n erbyn ehangu’r diwydiant olew palmwydd, ond dim ond pan fo digon o goedwigoedd yn yr ardaloedd tameidiog hyn.

Dywedodd Dr Benoit Goossens, o Ganolfan Maes Danau Girang, cyfleuster ymchwil ar y cyd a reolir gan Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Phrifysgol Caerdydd: “Nod ein hymchwil oedd deall sut mae’r mochyn barfog yn addasu i goedwigoedd cynyddol tameidiog sy’n ffinio â phlanhigfeydd olew palmwydd.

“Dyma pam yr ydym yn dechrau astudiaeth hirdymor o’r mochyn barfog yng Ngwarchodfa Bywyd Gwyllt Kinabatangan Isaf, i geisio gosod coleri lloeren ar sawl un o’r moch i ddysgu am eu symudiadau a’u defnydd o’r dirwedd coedwigoedd-planhigfeydd.

Mae’r mochyn barfog wedi’i ddiogelu yn Sabah ac fe’i hystyrir yn rhywogaeth fregus gan yr Undeb Rhyngwladol Cadwraeth Natur yn sgîl colli ei gynefinoedd a’i or-hela mewn nifer o ardaloedd.

Dywedodd Kieran Love, o Ganolfan Maes Danau Girang: “Mae ein canlyniadau’n ddifyr iawn am eu bod yn awgrymu pa mor bwysig yw coedwigoedd i foch barfog.

“Gall y moch barfog fanteisio ar ffrwythau olew palmwydd ond mae angen nifer o adnoddau eraill arnynt sydd fel arfer i’w cael yn eu cynefin coediog naturiol.

“Mae coedwigoedd yn cynnig ystod eang o fwyd, deunydd nythu, ardaloedd ymdrochi, a chuddfannau rhag ysglyfaethwyr.

“Mae cynefin y goedwig hefyd yn dibynnu ar y moch i gyflawni nifer o swyddogaethau i’r ecosystem; maen nhw’n bwyta ac yn dosbarthu hadau, yn awyru pridd, ac yn addasu cymunedau planhigion.

“Mae moch hefyd yn brae pwysig i ysglyfaethwyr eraill gan gynnwys llewpardiaid Sunda prin.

“Felly, mae’r moch yn dibynnu ar goedwigoedd ac, yn eu tro, rhaid bod poblogaethau da o foch mewn coedwigoedd Borneaidd iach.”

Canfu’r ymchwil fod y moch barfog yn byw yn yr holl ardaloedd coediog ac yn y rhan fwyaf o safleoedd olew palmwydd a’u bod yn iach. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy i ddiogelu’r rhywogaeth rhag datgoedwigo.

Dywedodd David Kurz, ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Califfornia, Berkeley: “Dengys y ffaith fod gennym foch sydd wedi’u bwydo’n dda drwy gydol y dirwedd coedwigoedd-planhigfeydd y gallai fod sawl opsiwn i reoli moch barfog yn yr hirdymor, sy’n newyddion da i helwyr a chadwraethwyr.

“Ond, mae cynefinoedd coediog sydd wedi’u diogelu a’u cysylltu â’i gilydd yn hollbwysig i foch barfog, sydd yn hanesyddol wedi mudo cannoedd o gilomedrau ac sy’n eu cael eu hunain wedi’u cyfyngu i fyd cynyddol fach.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r ganolfan yn gyfleuster ymchwil a hyfforddiant cydweithredol yn Sabah, Malaysia.