Cymraeg i ffoaduriaid a cheiswyr lloches
6 Mawrth 2018
Mae menter a ddyfeisiwyd gan Brifysgol Caerdydd ac sy’n cael ei hariannu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg yn rhoi cyfle i ffoaduriaid ddysgu Cymraeg.
Trefnir y gwersi hyn mewn partneriaeth â Chyngor Ffoaduriaid Cymru ac fe’u cynigir mewn sawl lleoliad o amgylch y ddinas. Eu nod fydd cyflwyno bywyd a diwylliant Cymraeg i’r rhai sy’n cymryd rhan.
Dechreuodd un o diwtoriaid y cwrs, Matt Spry, addysgu’r sesiynau i ddechreuwyr yn ddiweddar. Bydd cyfle hefyd i ddysgu’r iaith mewn modd anffurfiol ar achlysuron cymdeithasol mewn mannau ledled y ddinas.
Dechreuodd Matt siarad Cymraeg ddwy flynedd yn ôl ar ôl ennill ysgoloriaeth gan Brifysgol Caerdydd, a dywedodd: "Mae dysgu Cymraeg yn cynnig ystod enfawr o fanteision. Yn ogystal â bod yn iaith hardd, gall helpu pobl sydd newydd symud i’r ddinas ddod yn rhan o gymuned fywiog a chroesawgar.
"Rydym wedi cael llawer o ddiddordeb gan ffoaduriaid sydd am fanteisio ar y dosbarthiadau. Mae pob un ohonynt yn awyddus i gofleidio diwylliant Cymru a chreu gwreiddiau go iawn yn y ddinas wych yma. Bydd y gwersi hyn yn siŵr o gael effaith enfawr ar y rhai sy'n cymryd rhan."
Meddai Lowri Bunford-Jones, Rheolwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg: "Mae’r rhaglen arloesol hon ar flaen y gad o ran sut mae Cymraeg yn cael ei haddysgu i ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Bydd y gwersi yn rhai ymarferol ac anffurfiol – ac yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddechrau siarad yr iaith ar unwaith.
"Rydym hefyd am geisio rhannu ein harbenigedd â darparwyr eraill ledled Cymru er mwyn i fentrau tebyg gael eu sefydlu."
Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn cofrestru ar gyfer y dosbarthiadau gysylltu â tiwtor Matt Spry: Ebostiwch SpryM@caerdydd.ac.uk neu ffoniwch 029 2087 4710.