Malcolm Anderson 1970-2018
6 Mawrth 2018
Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth annhymig Malcolm Anderson ar 19 Chwefror 2018.
Ganed Malcolm ar 22 Ionawr 1970. Fe’i maged yn Cramlington, Northumberland. Dangosodd Malcolm yn fachgen ysgol fod ganddo ddawn arwain - daeth yn Ddirprwy Brif Fachgen a chapten timoedd criced a phêl droed yr ysgol. Dangosodd hefyd nodweddion eraill a fyddai’n dod yn gyfarwydd iawn i bawb a’i adnabu yn ddiweddarach yn ei fywyd. Mewn tysteb yn cymeradwyo cais Prifysgol Malcolm, ysgrifennodd Prifathro Ysgol Uwchradd Cramlington: “Mae agwedd Malcolm tuag at ei waith yn rhagorol ... Mae’n gallu gweithio’n dda iawn ar ei ben ei hun ... Mae ganddo arddull glir sy’n arddangos ei ddadleuon yn rymus ac yn rhesymegol gan ddefnyddio dadansoddi cadarn a synnwyr digrifwch sych fel ei gilydd”. Ni phallodd y rhinweddau hyn wedi ugain mlynedd ar ddeg o fywyd academaidd.
Daeth Malcolm i Gaerdydd fel myfyriwr israddedig yn ystod hydref 1988. Darllenodd Economeg a Hanes Economaidd, gan raddio ag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn 1991. Fe’i penodwyd ar unwaith yn gynorthwyydd ymchwil yn yr Uned Ymchwil Hanes Busnes oedd newydd ei ffurfio dan arweinyddiaeth Dick Edwards a Trevor Boyns. Dangosodd Malcolm yn fuan ei addasrwydd at ymchwil academaidd. Cafodd hyd i’w briod le mewn maes eithaf esoterig o fewn Hanes Cyfrifyddu. Gyda Dick a Roy Chandler, archwiliodd broblem hirbarhaol cyfrifoldeb archwilwyr dros ganfod twyll. Cafodd yr ymchwil hon effaith fawr adeg sgandalau corfforaethol Polly Peck a Maxwell; yn 1993, enillodd eu canlyniadau cyhoeddedig wobr am y papur gorau ym maes Cyfrifo ac Ymchwil Busnes.
Y prosiect mawr cyntaf y bu iddo gynorthwyo ag ef oedd prosiect dan nawdd yr ESRC a arweiniwyd gan Dick a Trevor ar bwnc ‘The development of accounting information as the basis for management decision making’ a barodd rhwng Awst 1992 ac Ebrill 1995. Daeth yn rhan bwysig o ‘Ysgol Caerdydd’ ar gyfer cyfrifo a haneswyr busnes, gan wneud cyfraniadau sylweddol i ymdrechion ymchwil yr Uned ac yntau’n gweithio wrth ochr Dick, Trevor, a Derek Matthews. Gyda’r rhain y gwnaeth, mewn gwahanol gyfuniadau, gyfrannu i nifer o gyhoeddiadau llyfrau a chyfnodolion yn yr 1990au. Yn benodol, cynhyrchodd ei waith ar ddylanwad cyfrifwyr yn ystafelloedd bwrdd cwmnïau Prydeinig - “the priesthood of the industry” - ganlyniadau sydd wedi synnu nifer. Fe’i dyrchafwyd yn ddarlithydd ym mis Medi 1995 ac ychwanegodd at ei gymwysterau drwy ennill MPhil a Diploma Ardystiedig mewn Cyfrifeg ac Arianneg o’r ACCA. Dros y 15 mlynedd nesaf, datblygodd gorff o waith a oedd yn amrywio o gyfnodolion proffesiynol adnabyddus i rai o’r cyfnodolion 3 a 4 seren uchaf gyda darllenyddiaeth fwy dethol. Darn a oedd yn arbennig o hoff ganddo oedd ei gydweithrediad ag ysgolheigion nad oeddent yng Nghaerdydd: Stephen Zeff a’r diweddar Bob Parker, cyfranwyr mawr i Broffesiwn Cyfrifyddu. Llyfr ffynonellau bywgraffyddol.
Er gwaethaf ei allbwn ymchwil trawiadol, cofir Malcolm orau am ei ymrwymiad angerddol i ddysgu ac addysg, ac am y cymorth bugeiliol a ddarparodd i gynifer o fyfyrwyr cyfredol a rhai sydd bellach wedi graddio. Roedd Malcolm yn athro ardderchog gyda’r gallu prin i ennyn brwdfrydedd nifer fawr o fyfyrwyr a wnaeth fynychu ei ddarlithoedd, hyd yn oed rai ar bynciau a allai fod yn dechnegol ac, ohonynt eu hunain, heb lawer o gyffro iddynt. Gan gychwyn â’r wobr am Yr Athro Mwyaf Effeithiol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2011, enillodd Malcolm wobr bob blwyddyn pa un ai oherwydd rhagoriaeth ddysgu, adborth, neu gefnogi myfyrwyr. Mae’r teyrngedau lu a dderbyniwyd gan gynfyfyrwyr a myfyrwyr cyfredol yn tystio i ba mor uchel ei barch oedd Malcolm yn eu golwg, nid yn unig fel athro rhagorol, ond fel rhywun a oedd yn ofalgar a diflino yn yr amser a roddai iddynt.
Roedd rhagoriaeth Malcolm yn y ddarlithfa yn cyd-daro â’r proffesiynoldeb a ddaeth i’r amrywiol rolau a neilltuwyd iddo gan yr Ysgol. Roedd ei sylw craff i fanylion a’i benderfynoldeb i ymgyrraedd at berffeithrwydd yn ei neilltuo yn anochel ar gyfer rhai o’r tasgau mwyaf llafurus - yn rhyddhad i’w gyd-weithwyr a wyddai nid yn unig eu bod wedi osgoi’r jobyn, ond y câi ei wneud orau ag y gellir. Roedd hyn yn arbennig o wir pan ymgymerodd â dod ag amserlen addysgu’r Ysgol i’r oes electronig - tasg anferthol o ran y cyrsiau/dosbarthiadau, staff, maint y dosbarthiadau, ac yn yn blaen, ond gyda rhwystr ychwanegol y gofynion a gafwyd gan staff ynghylch eu dewisiadau o ran ble a phryd roeddent am addysgu. Cafodd gymorth gan ei gydweithiwr Louis Vallis, a gofiodd angerdd Malcolm dros swydd y byddai llawer yn ei ystyried fel caledwaith diflas. Cyfrannodd Malcolm ei sgiliau trefnu, ei ymroddiad a phenderfynoldeb proffesiynol, ond yn fwy na’r rhain, daeth â’i rinweddau arbennig ei hun - roedd yn ddiymhongar, cymedrol, yn parchu ei gydweithwyr ac yn barod bob amser i gyflawni’r gorau ar eu cyfer. Ni waeth beth fyddai’r canlyniad, roedd cydweithwyr Malcolm yn gwybod y byddai wedi ymdrechu bodloni eu gofynion niferus ac amrywiol, yn aml ar gost personol: byddai yn aml yn dechrau’n gynnar iawn yn y bore.
Yn 1996, croesawodd busnesau yn Ne Cymru agor Ail Groesfan Hafren. Roedd Malcolm yntau wrth ei fodd gan fod y bont newydd yn cymryd 30 munud oddi ar y teithiau rheolaidd i weld ei annwyl Abertawe’n chwarae pêl-droed - ac efallai y byddai’n rhai credu mai dewis tîm annisgwyl oedd hyn i rywun a aned ac a faged yn ngogledd-ddwyrain Lloegr.
Ni ellir mesur yr ymdeimlad o golled y mae’i gydweithwyr yn ei brofi, ond bychan yw hyn o gymharu â’r hyn y mae ei wraig, Diane, a’i dri merch, Hannah, Rachel, a Bethan yn eu brofi. Roedd yn llwyr-ymrwymedig iddynt, a gweddill ei deulu.
Mae Llyfr Cydymdeimladau ar-lein ar gael ar gyfer y rheiny sydd am rannu negeseuon er cof Malcolm.