Carfan pêl-rwyd yn cynnwys myfyrwyr ac aelod o staff
6 Mawrth 2018
Mae dau fyfyriwr ac aelod o staff o Brifysgol Caerdydd wedi eu dewis ar gyfer tîm pêl-rwyd Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur yn Awstralia.
Bydd myfyriwr Meddygaeth, Sarah Llewelyn, 21, Myfyriwr Gwyddorau Biolegol, Leila Thomas, 19, a’r cymrawd ymchwil, Dr Kelly Morgan, 30, o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, yn rhan o garfan Cymru fydd yn herio Seland Newydd, yr Alban, Lloegr, Uganda a Malawi yn y rowndiau rhagarweiniol.
Bydd y ddau dîm gorau yn y ddau grŵp yn mynd yn eu blaen i’r rowndiau cynderfynol ac yn cael y cyfle i ennill medal.
Mae Sarah a Leila’n rhan o Raglen Perfformiad Uchel y Brifysgol, sy’n helpu myfyrwyr i ragori yn eu gyrfaoedd chwaraeon ac academaidd fel ei gilydd yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Caerdydd.
Sarah, Leila a Kelly, sy'n is-gapten Cymru, yw’r diweddaraf ymhlith nifer o athletwyr sy'n gysylltiedig â’r Brifysgol i gynrychioli Cymru yn y Gemau.
Dewiswyd tri o gynfyfyrwyr ar gyfer carfanau Hoci Cymru. Y rheini yw Dan Kyriakides, 22 oed, sydd â gradd mewn Daearyddiaeth Morol (BSc 2016) a Rupert Shipperle, 25 oed, sydd â gradd mewn Daearyddiaeth a Chynllunio (BSc 2014) yn nhîm dynion, tra dewiswyd Sophie Clayton, 26 oed sydd â gradd mewn Deintyddiaeth (BDS 2015) yn nhîm y menywod.
Yn ogystal, yn gynharach eleni, dewiswyd y myfyriwr Meddygaeth, Lewis Oliva, 25 ar gyfer y sbrint seiclo a bydd Coral Kennerley, 23, sy'n astudio Peirianneg Fecanyddol, yn cystadlu yng nghamp saethu pistol.
Bydd y myfyriwr Cyfrifiadureg, Dean Bale, 20, yn cynrychioli Lloegr mewn saethu reifflau yn y Gemau.