Hattie Brett yn dychwelyd i Grazia
27 Chwefror 2018
Mae Hattie Brett, cynfyfyriwr o’r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, wedi’i phenodi’n olygydd newydd Grazia UK.
Mae Brett, sy’n ddirprwy gyfarwyddwr adran ffordd o fyw y Telegraph ar hyn o bryd, yn olynu Natasha Pearlman, sydd wedi rhoi’r gorau iddi ar ôl bod yn olygydd y cylchgrawn am dair blynedd.
Ar ôl graddio gyda gradd Newyddiaduraeth Cylchgrawn achrededig yr Ysgol Newyddiaduraeth, dechreuodd Brett ei gyfra gyda Grazia yn haf 2006. Roedd yn gyfrifol am lansio Grazia Daily yn ogystal â goruchwylio’r tîm ysgrifau, ac fe gynhaliodd gyfweliad gyda’r cyn-Brif Weinidog, David Cameron, yn ystod y cyfnod hwn.
Aeth yn ei blaen i lansio gwefan ffordd o fyw i fenywod ‘The Debrief for Bauer’ yn 2014 cyn symud i’r Telegraph flwyddyn yn ddiweddarach, lle mae’n goruchwylio timau ffasiwn a moethusrwydd ar draws pob platform.
Dywedodd Brett, fydd yn dechrau ei swydd newydd ym mis Mehefin: “Braint fydd arwain brand sy’n cynrychioli menywod deallus, ffasiynol a dylanwadol.”
Dywedodd Tim Holmes uwch-ddarlithydd yr Ysgol a chyn-gyfarwyddwr Newyddiaduraeth Cylchgronau, “Rydyn ni wedi gwylio gyrfa Hattie gyda balchder mawr ac edrychwn ymlaen at weld Grazia yn datblygu yn y dyfodol gyda hi wrth y llyw.”
Ychwanegodd Tim, “Pan oedd Hattie yng Nghaerdydd, fe weithiodd hi a'i chyd-myfyrwyr ar gylchgrawn am glybiau rygbi - mae’n edrych fel b bod hynny wedi bod o gryn fudd iddi!”