Miloedd o feicwyr yn dod i'r Brifysgol ar gyfer Velothon Cymru
12 Mehefin 2015
Bydd adeiladau'r Brifysgol yn gefndir ar gyfer digwyddiad cyntaf erioed Velothon Majors yng Nghymru
Bydd hyd at 15,000 o feicwyr yn mynd heibio'r Brifysgol y penwythnos hwn [13-14 Mehefin] ar gyfer y digwyddiad Velothon Cymru cyntaf erioed.
Ar ôl gwerthfawrogi rhai o olygfeydd mwyaf syfrdanol Cymru, bydd y beicwyr yn cyrraedd llinell derfyn y ras o flaen Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd, i gefnogaeth frwd miloedd o wylwyr eiddgar.
Bydd gan Adeilad Morgannwg rôl ganolog yn logisteg y digwyddiad ar y diwrnod hefyd. Bydd yn gartref i ystafell y wasg, ystafell reoli'r digwyddiad a swyddfa ganolog ar gyfer swyddogion yr Undeb Seiclo Rhyngwladol (UCI).
Velothon Cymru yw'r digwyddiad diweddaraf sy'n rhan o UCI Velothon Majors — cyfres fyd-eang o ddigwyddiadau beicio sy'n rhoi cyfle i feicwyr brwdfrydig seiclo ar hyd yr un llwybr â rhai o dimau a beicwyr proffesiynol gorau'r byd.
Ymhlith digwyddiadau eraill yn y gyfres mae Velothon Berlin, Velothon Fienna a Velothon Philadelphia.
Dewiswyd Cymru i gynnal digwyddiad yng Nghyfres Velothon Majors o ganlyniad i'r cynnydd aruthrol sydd wedi bod ym mhoblogrwydd beicio dros y blynyddoedd diwethaf, a'r ffaith iddi allu darparu dau lwybr godidog: llwybr 140km heriol ar gyfer beicwyr profiadol a llwybr 50km ar gyfer y rheini sydd am gael diwrnod ychydig yn llai dwys ar gefn beic.
Bydd y beicwyr sy'n seiclo'r llwybr 140km yn dechrau yng nghanol dinas Caerdydd cyn mynd ar hyd yr arfordir i Gasnewydd, a mynd heibio'r golygfeydd hardd dros Afon Hafren, gwesty'r Celtic Manor a'r ardal gyfagos.
Yna, bydd y llwybr yn mynd â'r beicwyr i fyny i'r Fenni, cyn mynd draw at Lan-ffwyst i ddringo'r Tymbl ym Mannau Brycheiniog, lle cynhelir her Brenin a Brenhines y Mynyddoedd ar hyd y llwybr 6km enwog.
Ar ôl taclo'r Tymbl, bydd y beicwyr yn dechrau ar eu taith yn ôl drwy Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym Mlaenafon cyn gorffen o flaen Adeilad Morgannwg, Prifysgol Caerdydd.
Cynhelir y prif ddigwyddiad ddydd Sul, 14 Mehefin, a bydd yn rhan o benwythnos o weithgareddau, gan ddechrau â digwyddiad iau o amgylch canolfan ddinesig Caerdydd ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.
Bydd tîm staff y Brifysgol - Staff Seiclo Prifysgol Caerdydd - yn cymryd rhan yn y digwyddiad. Byddant yn gwisgo crysau seiclo du â brand y Brifysgol, ac yn codi arian ar gyfer MS Society.
Bydd Prif Adeilad y Brifysgol hefyd yn gefndir ar gyfer y seremoni wobrwyo ar ôl y brif ras ddydd Sul.
Rydym hefyd yn un o brif noddwyr Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd, a gynhelir ddydd Sadwrn, 26 Mawrth 2016.