Archeolegwyr yn darganfod tystiolaeth 'ddigyffelyb ar lefel fyd-eang' o arferion gwledda cynhanesyddol Cymru
11 Mehefin 2015
Mae gwaith ymchwil newydd gan archeolegwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi dangos tystiolaeth 'ddigyffelyb ar lefel fyd-eang' o arferion gwledda cynhanesyddol unigryw yn ne Cymru oedd yn ymwneud â phorc yn bennaf
Ar ôl 10 mlynedd o gloddio a gwaith ymchwil, mae dadansoddiad o esgyrn anifeiliaid oedd mewn tomen neu 'domen sbwriel' mewn safle gwledda cynhanesyddol yn Llan-faes, Bro Morgannwg, wedi datgelu defod newydd o wledda torfol oedd yn canolbwyntio'n benodol ar chwarthorion blaen moch.
Mae'r ymchwil - oedd yn brosiect ar y cyd rhwng Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru - wedi rhoi cipolwg rhyfeddol ar fywydau hynafiaid cynhanesyddol Cymru.
Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yr wythnos hon yng nghyfnodolyn archaeoleg Antiquity, yn rhoi manylion canlyniadau'r dadansoddiad a astudiodd dros 70,000 o ddarnau o esgyrn - y casgliad mwyaf o esgyrn anifeiliaid cynhanesyddol erioed i gael ei ddarganfod yng Nghymru.
Yn ôl yr ymchwilwyr, anaml iawn y ceir goroesiad o'r fath mewn gwlad lle mae tystiolaeth o hen ffyrdd o fyw yn cael ei cholli fel arfer oherwydd yr asid sydd yn y pridd.
Yr un mor arwyddocaol yw darganfod bod y rhan fwyaf o esgyrn y moch yn dod o un chwarter yn unig o'r anifail - y chwarthor blaen ar y dde - gan awgrymu bod patrwm penodol o wledda.
Mae dadansoddiad biomolecwlaidd o ddannedd ac esgyrn hefyd wedi dangos na chafodd llawer o'r moch eu magu'n lleol ac y gallent fod wedi'u cludo i'r safle o gryn bellter i ffwrdd. Byddai hyn wedi bod yn gamp aruthrol ym Mhrydain cynhanesyddol.
Gan ddefnyddio'r dulliau gwyddonol diweddaraf,
helpodd osteoarchaeolegydd y Brifysgol, Dr Madgwick, i ail-greu'r gloddestau
seremonïol hyn. Roedd y rhain yn denu pobl a'u hanifeiliaid o'r ardal leol a
thu hwnt er mwyn cael eu gweld yn gwledda ar raddfa fawr.
Cynhaliwyd yr ymchwil gan Dr Madgwick, a'r cyd-awdur Dr Jacqui Mulville,
darllenydd mewn Bioarchaeoleg, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru a
arweiniodd gwaith cloddio'r ymchwil.
Dywedodd Dr Madgwick: Er mawr syndod, moch oedd bron 80% o weddillion yr
anifeiliaid yn Llan-faes, a hynny ar adeg pan roedd defaid a gwartheg yr
anifeiliaid mwyaf poblogaidd o ran bwyd, yn hytrach na phorc. Hwyrach mai'r hyn
sy'n fwy rhyfeddol yw bod y rhan fwyaf o esgyrn y moch yn dod o un chwarter o'r
anifail yn unig - y chwarthor blaen ar y dde. Mae'n bosibl bod pob teulu wedi
gorfod rhoi'r un math o gig er mwyn eu cynnwys yn y wledd - gan olygu y byddai
pawb yn gorfod lladd mochyn i anrhydeddu'r wledd.
"Mae'r patrwm penodol hwn o wledda ar un chwarter yn unig o un rhywogaeth yn rhywbeth sydd heb ei weld yn un unman ledled y byd. Mae'n arbennig o drawiadol gan iddo barhau dros gyfnod o ganrifoedd yn ystod Oes yr Haearn."
Mae Dr Madgwick yn credu byddai gan yr arferion caeth hyn rôl o safbwynt cydlyniant cymunedol.
Ychwanegodd: "Buasai
cymunedau de Cymru a thu hwnt ar ddechrau Oes yr Haearn wedi bod yn rhai
bychain ac ar wasgar. Fodd bynnag, byddai'r gloddestau hyn wedi cynrychioli
cyfnod o undod pan fyddai pobl wedi dod ynghyd i wledda ar chwarthor blaen
mochyn, yn yr un modd â'u cyndeidiau."
Ychwanegodd Adam Gwilt, Prif Guradur Cynhanesyddol Amgueddfa Cymru, ac un o
gyd-gyfarwyddwyr yr amgueddfa ar gyfer y prosiect: "Nid yr hyn oedd yn
digwydd bob dydd a boliau llawn yn unig y mae tomenni'n eu datgelu. Maent hefyd
yn datgelu sut roedd pobl yn meddwl ac yn byw, yn ogystal ag arferion,
gwerthoedd a chredoau'r cyfnod. Roedd gwledda cymunedol yn arfer oedd yn
cysylltu rhannau pellennig o Ewrop yr Iwerydd yn ystod diwedd yr Oes Efydd.
Roeddent yn cynnig cyfleoedd i fynegi a thrafod cysylltiadau rhwng pobl bwerus,
a chynnal a rhwymo cysylltiadau, cynghreiriau a chyfnewidfeydd."
Mae'r ymchwil yn mynd rhagddo ac mae Dr Madgwick wrthi'n ymgymryd â dadansoddiad gwyddonol arall i ddatgelu patrymau gwledda tymhorol, dulliau coginio a'r ffyrdd yr oedd bwyd yn cael ei baratoi.