Pennaeth newydd Ysgol Meddygaeth
26 Chwefror 2018
![Siladitya Bhattacharya](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/1109655/Siladitya-Bhattacharya1.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Penodwyd yr Athro Siladitya Bhattacharya yn Bennaeth newydd yr Ysgol Meddygaeth, lle bydd yn goruchwylio holl weithgareddau’r Ysgol wrth iddi edrych ar adeiladu ar ei hanes rhagorol o ran ymchwil, addysgu ac ymgysylltu.
Bydd yr Athro Bhattacharya yn cymryd yr awenau oddi wrth Bennaeth Dros Dro’r Ysgol, yr Athro Ian Weeks, ym mis Mai 2018.
Wrth gychwyn ar y swydd, meddai’r Athro Bhattacharya: “Rwy'n edrych ymlaen at ymuno ag Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a chyd-weithio â grŵp hynod dalentog o gydweithwyr er mwyn darparu addysg ac ymchwil rhagorol sy’n cael effaith wirioneddol ar iechyd a lles pobl yng Nghymru a thu hwnt.
“Rwy'n hyderus y bydd yr Ysgol yn adeiladu ar ei chryfderau presennol i gyflawni datblygiadau gwyddonol a hyfforddiant clinigol angenrheidiol i gefnogi gofal iechyd o'r ansawdd uchaf.”
Ar hyn o bryd, mae’r Athro Bhattacharya yn Athro Meddygaeth Atgenhedlu ym Mhrifysgol Aberdeen ac mae ganddo gyfrifoldeb arweinyddiaeth sylweddol fel Cyfarwyddwr Sefydliad Gwyddorau Iechyd Cymhwysol y Brifysgol. Mae ei ddiddordeb ymchwil mawr ym maes epidemioleg atgenhedlu a gwerthuso ymyriadau mewn meddygaeth atgenhedlu, yn enwedig anffrwythlondeb.
Ag yntau’n prif archwiliwr portffolio o dreialon iechyd atgenhedlu, ar hyn o bryd mae’r Athro Bhattacharya yn eistedd ar sawl pwyllgor cenedlaethol a rhyngwladol sy'n ymwneud â meddygaeth atgenhedlu. Mae ganddo hefyd brofiad helaeth o addysgu a datblygu rhaglenni ar gyfer cwricwla israddedig ac ôl-raddedig.
Yn ôl yr Athro Gary Baxter - Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd: “Rwyf wrth fy modd mai’r Athro Bhattacharya fydd Pennaeth yr Ysgol Meddygaeth. Bydd yn dod â chyfoeth o brofiad arwain, addysgu ac ymchwil i'r swydd ac edrychaf ymlaen at weithio gydag ef i lunio gweithgareddau’r Ysgol yn y dyfodol.
“Hoffwn hefyd fynegi fy niolch i’r Athro Ian Weeks, fydd yn parhau i wasanaethu fel pennaeth dros dro yr ysgol tan ddechrau mis Mai pan yr Athro Bhattacharya’n dechrau ar ei swydd.”