Ewch i’r prif gynnwys

Mae dyfodol gwell yn disgwyl orangwtaniad yn Sabah

23 Chwefror 2018

Orangutan

Mae 100,000 o orangwtaniaid wedi diflannu yn Borneo yn yr 16 mlynedd diwethaf, yn ôl ymchwil newydd o dan arweinyddiaeth consortiwm o ymchwilwyr a chadwraethwyr.

Mae hela a dinistrio cynefin wedi arwain at ostyngiad yn nifer yr orangwtaniaid yn Borneo, gydag astudiaeth newydd yn amlygu y bu’r dirywiad hwn yn gynt na’r hyn a feddyliwyd i ddechrau, ond mae ymdrechion gan y llywodraeth yn Sabah, lle lleolir Canolfan Maes Danau Girang, cyfleuster ymchwil a reolir gan Adran bywyd gwyllt Sabah a Phrifysgol Caerdydd, wedi profi i fod yn effeithiol.

Yn ôlDr Marc Ancrenaz, cyd-gyfarwyddwr NGO HUTAN yn Sabah: “Mae’r ffigur hwn yn syfrdanol. Mae cyfradd y gostyngiad yn llawer cyflymach na’r hyn roeddem yn ei feddwl, ac mae hynny’n peri pryder. Os na allwn atal y dirywiad hwn, mae llawer mwy o boblogaethau’n mynd i ddiflannu dros y degawdau nesaf.

“Mae’n golygu y bu mwy o orangwtaniaid yn y gorffennol na’r hyn oeddem yn ei feddwl, ac mae hyn yn dangos pa mor anodd yw hi i wybod yn union pa faint o orangwtaniaid gwyllt sy’n goroesi yn Borneo.

“Mae hyn hefyd yn golygu bod newid ein dull yn fater o frys, er mwyn  gwarchod orangwtaniaid.”

Canmolodd y ddau ymchwilydd waith Llywodraeth Sabah, sydd wedi sefydlu ardaloedd gwarchodedig o goedwig ar gyfer orangwtaniaid, ond tynnodd yr astudiaeth sylw hefyd at yr angen am ddeddfwriaeth bellach i atal rhagor o farwolaethau.

Yn ôl Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang a Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Bu’r rhan fwyaf o boblogaethau mawr Sabah yn sefydlog am yr 20 mlynedd diwethaf diolch i greu coedwigoedd llawn gwarchodedig newydd gan Lywodraeth Sabah..."

“Fodd bynnag gallai torri cynefinoedd yn ddarnau i raddau helaeth, a throsi tir ymhellach fod yn ergyd drom i boblogaethau bychain o orangwtaniaid. Yn ôl data o HUTAN ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah, roedd poblogaeth dameidiog orangwtaniaid sy’n byw yn Kinabatangan Isaf oddeutu 1,100 yn negawd gyntaf yr 21ain ganrif. Heddiw mae'r boblogaeth hon llai na 800 o unigolion.

“Coll.i cynefin sy’n esbonio’r gostyngiad hwn”, ychwanegodd Dr Marc Ancrenaz.

Mae ymchwilwyr wedi awgrymu, er mwyn atal dirywiad pellach o rywogaethau mewn perygl, mae angen i weithgareddau amaethyddol ddod yn ymwybodol o’r modd y mar orangwtaniaid yn symud drwy Sabah.

Yn ôl Dr Benoit Goossens: “Mae angen i greu coridorau coedwig fydd yn caniatáu i'r orangwtaniaid symud ar draws y tir ac i ddod o hyd i diroedd newydd i sefydlu eu tiriogaethau eu hunain.

“Yn y fan hon, mae angen cymeradwyo ymdrechion y llywodraeth i warchod 30 y cant o’r goedwig – bydd hyn yn achub y poblogaethau mwyaf.

“Yn ogystal, mae angen i ni sicrhau nad yw’r un orangwtan yn cael ei ladd a sicrhau os yw hynny’n digwydd, bod y potswyr yn dod o flaen eu gwell.

“Hyd yn oed os yw’r poblogaethau mwyaf o orangwtaniaid yn ymddangos, rywfodd, yn ddiogel, mae’n dal i fod perygl real y gallai grwpiau bach o anifeiliaid nad oes cyfrif amdanynt heddiw, ddiflannu o fewn y blynyddoedd nesaf. Mae’r cloc yn tician.

“Bu’r ddau ohonom yn gweithio yn Sabah am dros 20 mlynedd ac rydym yn ddiffuant yn ein cred bod y mwyafrif o boblogaethau orangwtaniaid Sabah yn ddiogel, diolch i ymrwymiad llywodraeth Sabah i warchod 30 y cant o fàs eu tir.

“Nid yw hela’n fater mawr yma, o’i gymharu â rhannau eraill o’r ynys, felly mae’n ben dant gobaith i fywyd gwyllt Sabah. Yn y dyfodol, mae’n bosibl mai Sabah fydd y lle olaf posibl i ddod o hyd i orangwtaniaid gwyllt.”

Rhannu’r stori hon

Mae'r ganolfan yn gyfleuster ymchwil a hyfforddiant cydweithredol yn Sabah, Malaysia.