R. M. (Bobi) Jones 1929-2017
22 Chwefror 2018
Ar 22 Tachwedd 2017, bu farw’r llenor a’r ysgolhaig R. M. (Bobi) Jones.
Graddiodd Bobi Jones yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol De Cymru a Mynwy (rhagflaenydd Prifysgol Caerdydd) ac aeth ymlaen i wneud cyfraniad dihafal i’r iaith Gymraeg a’i diwylliant.
Ganed Robert Maynard Jones ar 20 Mai 1929 yn y Rhath, Caerdydd. Daeth o aelwyd ddi-Gymraeg gan gaffael y Gymraeg drwy system addysg y brifddinas.
Ar ôl astudio’r Gymraeg yn Ysgol Uwchradd Cathays, aeth ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Caerdydd â’r uchelgais o ennill gradd yn y Ffrangeg. Ond, yn ystod y flwyddyn gyntaf fe gofrestrodd i astudio’r Gymraeg. Yn ôl Dr Eleri James, a gwblhaodd PhD ar waith Bobi Jones yn Ysgol y Gymraeg, fe wnaeth Bobi darganfod “mwy na phwnc academaidd rhwng muriau Adran y Gymraeg. Darganfu, yn ei eiriau ei hun ‘Achos, Galwad, Dewiniaeth, Gweledigaeth, Ymgyrch, Bywyd.”
Mwynhaodd Bobi, y dysgwr cyntaf i’w benodi’n Athro’r Gymraeg, gyrfa amrywiol ac effeithiol fel academydd, addysgwr, bardd a theorïwr. Ym marn Eleri James, roedd pinaclau ei gyrfa yn cynnwys arbenigo: “...ym maes ieithyddiaeth, seico-mecaneg iaith ac mewn dulliau dysgu Cymraeg fel ail iaith; ysgrifennu’n awdurdodol ar bob cyfnod yn hanes llenyddiaeth Gymraeg; sefydlu’r Academi Gymreig; a sefydlu Cymdeithas y Dysgwyr.”
Darllenwch deyrnged lawn Dr Eleri James am hanes Bobi Jones a’i gyfraniad sylweddol i lenyddiaeth a diwylliant Cymru a'r Gymraeg.