Cenhedlaeth newydd o feddylwyr 2018
23 Chwefror 2018
Dewiswyd Dr Des Fitzgerald o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd fel un ymhlith Cenhedlaeth Newydd o Feddylwyr (New Generation Thinkers) 2018.
Ddoe, cyhoeddodd BBC Radio 3, BBC Arts a Chyngor Ymchwil y Celfyddydau, Dyniaethau ac Ymchwil (AHRC) pwy sy’n ffurfio carfan 2018 o Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr; 10 o academyddion ar ddechrau eu gyrfau sydd â dawn ar gyfer cyfathrebu â’r cyhoedd. Mae’r cynllun yn cynnwys y cyfle i wneud rhaglenni radio a theledu ar gyfer y BBC.
Mae Dr Fitzgerald yn cymdeithasegydd yn yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol, yn darlithio ar gymdeithaseg gwyddoniaeth, iechyd a salwch. Ef wnaeth ennill Gwobr nodedig Philip Leverhulme o £100,000 yn 2017 ar gyfer gwaith ymchwil mewn Polisi Cymdeithasol a Chymdeithaseg.
Dewiswyd y 10 sy’n ffurfio’r Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr ar ôl chwilio ledled y wlad am y syniadau academaidd gorau gyda’r potensial i’w rhannu drwy’r cyfryngau. Bydd ganddynt y cyfle, nawr, i wneud rhaglenni ar gyfer BBC Radio 3 a llwyfannau eraill, yn ogystal â chyfrannu i’r cyfryngau ehangach drwy gyfrwng yr AHRC. Yn ogystal, mae’r cynllun yn bartner â BBC Four, lle caiff rhai o’r academyddion dethol y cyfle i gyflwyno rhaglen ar y teledu.
Mae'r arbenigeddau’r flwyddyn hon yn cwmpasu sbectrwm eclectig o'r celfyddydau a'r dyniaethau. Ar hyn o bryd, mae Dr Fitzgerald yn ystyried y syniad diwylliannol bod dinasoedd yn seicolegol ddrwg i ni, neu eu bod rywsut yn fannau annaturiol, artiffisial, heb eu haddasu’n dda ar gyfer organebau dynol. Dywedodd: “Rwy’n falch iawn i fod wedi cael fy newis fel un ymhlith y Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr 2018 ac yn edrych ymlaen yn fawr i rannu fy ymchwil sydd ar y gweill gyda chynulleidfaoedd newydd.”
Yn ôl Alan Davey, rheolwr, BBC Radio 3: “Cenhadaeth Radio 3 yw cysylltu ein cynulleidfaoedd â cherddoriaeth a diwylliant arloesol ac ers ei lansio yn 2010, bu’r Genhedlaeth Newydd o Feddylwyr yn rhan ganolog o hynny. Mae'r cynllun wedi cefnogi a meithrin talent academaidd rhyfeddol, gan roi llwyfan i ddarlledwyr yfory i gyflwyno eu hymchwil hynod ddiddorol, sy’n ysgogi meddyliau, i’n gwrandawyr, ac alla i ddim aros i glywed pa syniadau fydd y 10 o feddylwyr cyffrous hyn yn ei gyflwyno i ni yn y flwyddyn sydd i ddod.”
Yn ôl yr Athro Andrew Thompson, Prif Weithredwr yr AHRC: “Mae’r cynllun yn ymwneud â helpu’r genhedlaeth nesaf o academyddion i ddod o hyd i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach ar gyfer eu hymchwil, drwy roi roi llwyfan iddynt i rannu eu syniadau a chaniatáu lle iddynt i herio ein ffordd o feddwl. Yn fwy nag erioed, mae angen y mewnweliadau a’r wybodaeth sy’n deillio o ymchwilwyr y celfyddydau a’r dyniaethau i’n helpu i lywio drwy gymhlethdodau ein byd sy’n destun globaleiddio, ac yn mynd i’r afael â heriau moesegol heddiw ac yfory.”