Gwrywod â thrwynau mawr sy'n bachu'r 'merched'
21 Chwefror 2018
Gall nodweddion gwrywaidd mwy na'r cyffredin, fel trwyn mawr, fod yn gaffaeliad ar gyfer denu benywod, yn ôl astudiaeth o fwncïod trwynog ym Malaysia.
Canfu gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd, Canolfan Maes Danau Girang, Prifysgol Kyoto ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah, gyswllt clir rhwng maint trwynau gwrywod a'r nifer o fenywod yn eu harimau, sy'n dangos bod maint yn bwysig wedi'r cyfan!
Dywedodd Dr Sen Nathan, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Adran Bywyd Gwyllt Sabah a myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Caerdydd a Chanolfan Maes Danau Girang: "Er bod natur unigryw 'trwyn rhyfedd' y mwnci trwynog wedi denu edmygedd biolegwyr a'r cyhoedd fel nodwedd weledol hynod o ddeniadol, hyd yma straeon gwerin yn hytrach na gwyddoniaeth sydd wedi cynnig esboniadau am ei esblygiad.
"Rydym ni'n dangos tystiolaeth sy'n cefnogi'r syniad bod cystadleuaeth rhwng gwrywod, a dewis benywod yn ffactorau achosol yn esblygiad y trwynau gwrywaidd mawr. Rydym ni hefyd wedi arsylwi bod ehangu trwynol yn achosi addasu systematig i nodweddion soniaredd lleisiau gwrywaidd, sydd yn fwy na thebyg yn amgodio nodweddion gwrywaidd. Mae ein canlyniadau felly'n awgrymu bod cyfraniadau clywedol trwynau gwrywaidd mawr yn gweithredu fel hysbysebion i fwncïod benywaidd wrth iddynt ddethol cymar."
Yn ystod yr astudiaeth, cynhaliwyd mesuriadau morffolegol ac arsylwadau ymddygiadol ar fwncïod trwynol yn y maes yng Ngwarchodfa Bywyd Gwyllt Kinabatangan Isaf. Cofnododd yr ymchwilwyr hefyd leisiau mwncïod trwynol gwrywaidd a benywaidd mewn tri sw gwahanol: Sw Yokohama yn Japan, Sw Singapore a Sw Kawi (Sabah).
Dywedodd Dr Ikki Matsuda, o Brifysgol Chubu a Phrifysgol Kyoto yn Japan: "Ar sail y data a gasglwyd, profwyd y gydberthynas rhwng màs y corff, nodweddion yr wyneb, cyfaint y ceilliau, lleisiau, a'r nifer o fenywod harîm sydd gan mwncïod trwynol caeth ac yn y maes.
"Yn ogystal â darganfod bod trwynau gwrywaidd mawr yn gweithredu fel hysbyseb i fwncïod benywaidd wrth ddethol cymar, gwelwyd hefyd bod gwrywod â thrwynau mawr yn tueddu i fod â màs corff a cheilliau mwy o faint. Mae hyn yn awgrymu bod maint y trwyn yn rhagfynegiad dibynadwy o uchafiaeth gymdeithasol a chyfrif sberm uchel."
Ychwanegodd Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang a Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym ni'n disgwyl y bydd ein hastudiaeth yn taflu goleuni ar ddamcaniaeth cydesblygiad clywedol nodweddion gwrywaidd mwy nag arfer mewn llinachau primat, gan gynnig tystiolaeth bellach ar gyfer llwybr esblygol trwynau mawr y mwncïod trwynol..."
"Nawr bydd ein harweinwyr teithiau yn gallu dweud wrth eu gwesteion bod maint yn bwysig, a bod gwrywod sydd â thrwynau mwy o faint yn denu mwy o fenywod i'w harîm."
"Mae Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Chanolfan Maes Danau Girang ar hyn o bryd yn paratoi Cynllun Gweithredu Talaith 10 mlynedd i'r mwncïod trwynol fydd yn cynorthwyo'r dalaith i warchod y rhywogaeth garismatig hon."
Cyhoeddwyd yr astudiaeth hon ‘Nasalization by Nasalis larvatus: larger noses audiovisually advertise conspecifics in proboscis monkeys’ yn Science Advances.
Cefnogwyd yr ymchwil yn rhannol gan Sefydliad Sime Darby.