Cwmni deilliannol yn lansio efelychydd uwchsain
21 Chwefror 2018
Mae MedaPhor Group plc (AIM: MED), cwmni deilliannol o Brifysgol Caerdydd, sy’n creu meddalwedd uwchsain ac efelychu deallus, wedi lansio ei lwyfan efelychydd BodyWorks Eve newydd.
Defnyddir yr efelychydd realistig iawn sy'n seiliedig ar fanicin i hyfforddi gweithwyr proffesiynol meddygol ymarfer Uwchsain Profion pwynt gofal (PoCUS) ym maes meddygaeth brys a gofal critigol.
Dangoswyd gyntaf yn y Cyfarfod Rhyngwladol ar Efelychu mewn Gofal Iechyd yn Los Angeles y mis diwethaf ac mae wedi’i lansio bellach ar gyfer ei werthu yn gyffredinol. Credir mai BodyWorks Eve yw'r unig efelychydd benywaidd realistig iawn ar gyfer hyfforddiant brys PoCUS.
Mae Eve BodyWorks yn cyfuno'r calonnau arferol a patholegol o efelychydd HeartWorks MedaPhor gyda sganiau claf go iawn o’r frest uchaf cyflawn lawr i’r pelfis o lwyfan ScanTrainer y MedaPhor. Mae’r rhain yn cael eu defnyddio i addysgu gofynion marchnad sgiliau cynyddol PoCUS , fel yr amlinellwyd gan Ffederasiwn Rhyngwladol Meddygaeth Frys (IFEM).
Mae BodyWorks Eve yn dyblygu dysgu mewn sefyllfa brys neu ofal critigol go iawn, drwy ddefnyddio dros 100 o achosion uwchsain cleifion go iawn a thros 10,000 o gyfuniadau o senarios cleifion. Mae hyn yn caniatáu i'r tiwtor reoli a newid difrifoldeb a phatholeg y claf mewn amser real.
Mae MedaPhor wedi cyd-gysylltu â Lifecast Body Simulation ("Lifecast"), sydd wedi datblygu amrywiaeth o ‘gyrff’ sy’n edrych yn naturiol ac yn debyg iawn i gyrff go iawn ar gyfer hyfforddiant meddygol er mwyn gwneud efelychydd BodyWorks Eve yn fwy realistig.
Mae Lifecast yn cyflenwi'r manicin realistig iawn, sy'n cyfuno â thechnoleg efelychiad uwchsain deallus MedaPhor.
Meddai Stuart Gall, Prif Swyddog Gweithredol MedaPhor: "Mae uwchsain pwynt gofal yn her fawr i'r diwydiant meddygol byd-eang o ran gwella sgiliau’r gweithlu, tra'n trawsnewid y rheng flaen mewn meddygaeth frys a gofal critigol.
Mae BodyWorks Eve wedi'i ddylunio i fodloni’r gofynion hyfforddi PoCUS penodol hyn a helpu prifysgolion, colegau ac ysbytai i bontio'r bwlch hyfforddiant i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i gleifion. "