Hwb arloesedd gwerth £5m i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru
20 Chwefror 2018
Mae Arloesi er mwyn Arbed, rhaglen gwerth £5 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn galw am geisiadau newydd gan y sector cyhoeddus.
Mae'r cynllun yn cael ei reoli gan Y Lab, partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Nesta. Hwn yw labordy arloesedd gwasanaethau cyhoeddus Cymru ac mae'n darparu cefnogaeth ar gyfer syniadau newydd gyda chymorth ariannol ac anariannol, yn ogystal ag ymchwilio sut a pham mae arloesedd yn digwydd.
Mae ceisiadau ar agor i grantiau gwerth hyd at £15,000, gan alluogi sefydliadau yn y trydydd sector a’r sector cyhoeddus i dreialu syniadau a gwella gwasanaethau wrth arbed arian. Yn dilyn cyfnod ymchwil a datblygu, bydd prosiectau llwyddiannus yn gallu gwneud ceisiadau am fenthyciad arian i roi’r syniad ar waith.
Drwy gydol y cyfnod ymchwil a datblygu, caiff y prosiectau arweiniad gan Y Lab, a gefnogir gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.
Bydd pob maes o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, byrddau iechyd, elusennau, a mentrau cymdeithasol, yn gallu ymgeisio am arian Arloesi er mwyn Arbed. Ym mis Mai a Mehefin, bydd cyfres o weithdai yn cael eu cynnal ar draws Cymru er mwyn rhannu adnoddau a thechnegau er mwyn helpu sefydliadau i ddatblygu eu cais. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 1 Gorffennaf 2018.
Yn ystod cylch cyntaf Arloesi er mwyn Arbed, a lansiwyd ym mis Chwefror 2018, bu i wyth sefydliad o Cymru benbaladr ddatblygu a phrofi eu syniadau. Ymhlith y prosiectau sydd yn y cyfnod ymchwil a datblygu mae:
- Ymddiriedolaeth Arloesi, elusen sy’n defnyddio Cynorthwywyr Personol Deallus (ee Amazon Alexa, dyfeisiau Google Home) er mwyn helpu oedolion ag anghenion dysgu yng Nghaerdydd i fod yn fwy annibynnol ar roddwyr gofal;
- FABRIC, menter gymdeithasol yn Abertawe sy’n treialu llety ‘symud ymlaen’ ar gyfer ymadawyr gofal ifainc;
- Leonard Cheshire Disability, sy’n treialu ap gweithgareddau i gynyddu rheolaeth a dewis ar gyfer oedolion sydd angen gofal un-wrth-un.
Dywedodd Rob Ashelford, Pennaeth Rhaglenni Y Lab: “Mae rhoi amser a gwagle i bobl arbrofi â syniadau newydd ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yn bwysicach nag erioed o’r blaen. Mae Arloesi er mwyn Arbed yn helpu sefydliadau i brofi, gwerthuso, a rhoi eu prosiectau ar waith, gyda’r rheini â’r potensial i wella gwasanaethau ac arbed arian. Rydym yn falch o gynnig cyfle newydd i wneud ceisiadau ar gyfer y rhaglen a chefnogi rhagor o brosiectau arloesol yng Nghymru.”
Dywedodd Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Ariannol Llywodraeth Cymru: Mae pob rhan o’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus yn gymwys i ymgeisio am arian Arloesi er mwyn Arbed. Y llynedd, cyflwynwyd ystod eang o gynigion, o effeithiolrwydd rhagnodi cymdeithasol i edrych am ffyrdd newydd o gynorthwyo cymunedau dan fygythiad llifogydd arfordirol a dirywiad hirdymor.
Rydym yn gobeithio gweld ystod o gynigion cyn ehanged eleni, a fydd yn arbed arian y gellir wedyn ei ailfuddsoddi mewn gwasanaethau a gwella canlyniadau ar gyfer pobl, gan gynnwys ansawdd eu bywyd.”