Ewch i’r prif gynnwys

Dyddiad cau’r Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol yn nesáu

19 Chwefror 2018

Mae Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol Ysgol y Gymraeg gwerth £2,000 yr un ac ar gael i ddarpar fyfyrwyr israddedig sydd wedi derbyn cynnig i astudio yn yr Ysgol ym mis Medi 2018.

Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i’r Ysgol gynnig yr ysgoloriaethau. Maent yn gwobrwyo creadigrwydd ymgeiswyr ac yn gofyn iddynt gyfleu eu personoliaeth a mynegi eu syniadau mewn dull gwreiddiol.

Lansiwyd yr Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol yn 2015 er mwyn cynyddu’r nawdd ariannol a gynigir gan yr Ysgol i fyfyrwyr.

Eleni, mae pedair ysgoloriaeth ar gael ac mae’r dyddiad cau yn nesáu. Gofynnir i geisiadau gyrraedd Ysgol y Gymraeg erbyn 28 Chwefror 2018.

Dywed Dr Angharad Naylor, Tiwtor Derbyn Ysgol y Gymraeg: “Rydym wedi derbyn nifer o geisiadau ar gyfer yr ysgoloriaethau yn barod ac yn edrych ymlaen at dderbyn rhagor cyn y dyddiad cau.

“Yn y gorffennol, mae safon y ceisiadau wedi bod yn ardderchog a bu’n anodd iawn dewis enillwyr. Mae pob cais wedi bod yn wahanol ac rydym wrth ein boddau yn eu darllen a’u gwerthfawrogi. Rydym wedi derbyn gwaith celf, cerddi, cyflwyniadau, erthyglau, fideos a chaneuon. Mae unrhyw beth yn bosibl felly os ydych wedi derbyn cynnig i astudio gyda ni – ewch amdani!”

Nid oes ffurflen gais i’w llenwi, ond disgwylir i’r ymgeiswyr ymateb i’r tri chwestiwn canlynol (mewn ffordd greadigol) yn eu cais: 1) Pam yr ydych chi am astudio'r Gymraeg yng Nghaerdydd? 2) Beth sy'n eich gwneud chi'n ymgeisydd arbennig? 3) Pam y dylai Ysgol y Gymraeg eich derbyn chi?

Os ydych chi wedi derbyn cynnig i astudio yn Ysgol y Gymraeg ym Medi 2018, cofiwch ymgeisio am yr Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol cyn 28 Chwefror (maynlion ar y wefan). Danfonwch eich cais i swyddfa’r Ysgol (Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, Rhodfa Colum, Caerdydd, CF10 3EU) neu trwy ebost – derbyncymraeg@caerdydd.ac.uk.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol wedi ymrwymo i ddatblygu iaith, cymdeithas a hunaniaeth Cymru gyfoes drwy addysg ac ymchwil o'r safon uchaf.