Cwmni fferyllol byd-eang yn cydnabod sgiliau myfyrwyr
19 Chwefror 2018
Mae myfyrwyr israddedig o’r Ysgol Cemeg wedi cael nifer o wobrau gan GlaxoSmithKline (GSK) am ansawdd eu hymchwil.
Cafodd myfyrwyr BSc ac MChem y cyfle i arddangos eu gwybodaeth a’u sgiliau i ddarpar gyflogwr, wrth i gwmni fferyllol byd-eang GlaxoSmithKline (GSK) ymweld ag Ysgol Cemeg Prifysgol Caerdydd ddwywaith cyn y Nadolig.
Ym mis Tachwedd, ymwelodd Dr Afjal Miah o gangen Stevenage GSK â’r Ysgol i gyflwyno tystysgrifau a gwobrau ariannol a noddir gan GSK am berfformiadau gan fyfyrwyr ym maes Cemeg Organig. Enillodd Joshua Morris wobr am Berfformiad Gorau ym mlwyddyn gyntaf Cemeg Organig, ac enillodd Karl Griffiths wobr am Berfformiad Gorau yn ail flwyddyn Cemeg Organig (ill dwy ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17).
Rhoddwyd gwobr GSK ar gyfer y Perfformiad Gorau mewn Prosiect MChem i Danielle Merrikin am ei gwaith ar brosiect cyflwyno cyffuriau targedigdrwy ymarferoli SPIONs, gwrthgyrff, a chymhlygion sy’n seiliedig a blatinwm, dan arweiniad Dr Ian Fallis a Dr Angelo Amoroso. Ar ôl iddi gyflawni ei MChem yn 2016/17, mae Danielle wedi aros yn yr Ysgol fel myfyriwr PhD.
Ar ran GSK, dywedodd Dr Miah: "Rydym yn hoff o gefnogi datblygiad myfyrwyr a chydnabod rhagoriaeth drwy ein Partneriaethau Strategol gyda Phrifysgolion. Pleser gwirioneddol yw gallu rhoi’r gwobrau hyn i unigolion talentog, ifainc.
Ym mis Rhagfyr, cymerodd y garfan gyfredol o fyfyrwyr ran mewn cyflwyniad posteri ar gyfer gwobrau GSK. Cymerodd deuddeg tîm ar hugain o fyfyrwyr Cemeg o Brifysgol Caerdydd ran yn y gystadleuaeth a noddir gan GSK, gan gyflwyno posteri ar ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’u trafod gyda phanel o feirniaid. Gwobrwywyd tri thîm â thystysgrifau gan GSK am y poster gorau a thrafodaeth wyddonol ar destunau mor eang ag ewynnau polymer ar gyfer cynhyrchu ager solar yn effeithlon (H. Kobayashi, H. Kaiki, A. Shrotri, K. Techikawara, A. Fukuoka, Cem. Sci., 2016, 7, 692-696), hydrolysis biomas prennaidd gan gatalydd sy’n deillio o gatalydd heterogenaidd ailddefnyddiadwy (Q. Chen, Z. Pei, Y. Xu, Z. Li, Y. Yang, Y. Wei, Y. Ji, Chem. Sci. 2018, 9, 623-628) achyplysu amidau yn gemo-ddetholus-ryngfoleciwlaidd math croes-enoladaidd (D. Kaiser, C. J. Teskey, P. Adler, N. Maulide, J. Am. Chem. Soc., 2017, 139, 16040-16043).
Dywedodd yr Athro Damien Murphy, Pennaeth yr Ysgol Cemeg: "Yr hyn oedd yn gyffrous am y posteri gan fyfyrwyr yr ail flwyddyn oedd ehangder y pynciau oedd i’w gweld. Ymhlith yr enillwyr cafwyd enghreifftiau o synthesis organig, egni a chynaliadwyedd a chatalysis, Roedd rhaid i’r myfyrwyr ddod i ddeall y pynciau arloesol hyn yn dda er mwyn gallu amddiffyn eu posteri. "Mae'n galonogol iawn."
“Mae dathlu rhagoriaeth a gwaith caled ymhlith y garfan fyfyrwyr yn bwysig ac rydym yn hoff o wneud felly fel Ysgol; ond mae’r gyfres newydd hon o wobrau a chydnabyddiaeth gan GSK yn helpu myfyrwyr i sylweddoli nad yr Ysgol Cemeg yn unig sy’n buddsoddi yn eu dyfodol a’u datblygiad.”
Mae GSK yn gwmni byd-eang sy’n ymchwilio i ystod eang o feddyginiaethau rhagnodol, brechiadau, a chynhyrchion traul gofal iechyd, a’u datblygu a’u cynhyrchu er mwyn helpu pobl i wneud mwy, teimlo’n well, a byw’n hwy. Mae gan y cwmni gysylltiadau agos â’r Ysgol Cemeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnig cyfleoedd lleoliadau gwaith yn ogystal ag interniaethau.