Dylanwad y Brifysgol yn treiddio drwy economi Cymru ac economi ehangach y DU
10 Mehefin 2015
Braf iawn oedd cael croesawu Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, Edwina Hart AC, yn ddiweddar wrth iddi ymweld â safle Canolfan Ymchwil Delweddu'r Ymennydd newydd Prifysgol Caerdydd (CUBRIC) sydd werth £44m
Pan fydd wedi'i chwblhau, bydd CUBRIC yn arwain Ewrop wrth helpu gwyddonwyr i ddeall achosion dementia a chyflyrau eraill sy'n effeithio ar yr ymennydd. Bydd yr economi leol yn elwa ar unwaith, ond cyn hir, bydd Cymru gyfan a gweddill y byd yn elwa ar y datblygiadau meddygol a ddaw yn sgîl yr adeilad blaenllaw hwn.
Wrth ymweld â Chymru am y tro cyntaf ers sicrhau mwyafrif yn yr etholiad, roedd y Prif Weinidog David Cameron yn pwysleisio pa mor bwysig ydyw i Gymru gyfan elwa ar adferiad economaidd y wlad.
Mae'n neges a gaiff ei chefnogi gan bob plaid wleidyddol, ac yn un yr ydym ni ym Mhrifysgol Caerdydd gant y cant y tu ôl iddi.
Am y tro cyntaf erioed, rydym wedi cynnal gwaith ymchwil i ddarganfod mwy am yr effaith economaidd rydym yn ei chael ar ein heconomi leol ac ar economi ehangach Cymru.
Rydym wedi canfod ein bod yn cael effaith ymhell y tu hwnt i'r brifddinas, gyda bron un rhan o dair yr holl effaith economaidd yn digwydd y tu allan i Gaerdydd ac yn holl siroedd eraill Cymru.
Mae'r gwaith ymchwil yn debyg i waith a wnaed gan Brifysgolion Cymru yn ôl yn 2011/12, a oedd yn dangos pa mor hanfodol yw prifysgolion Cymru i economi Cymru. Yn wir, canfu eu bod yn cael mwy o effaith nag y mae addysg uwch yn ei chael yn rhanbarthau Lloegr.
Gyda'i gilydd, mae prifysgolion Cymru yn cynhyrchu £3.6bn ar gyfer economi Cymru, gan gyfrif am £400m mewn enillion allforio.
Dengys ein gwaith ymchwil ar gyfer 2013/14 bod Prifysgol Caerdydd yn cyfrif am ran sylweddol o hyn. Mae'r Brifysgol bellach yn cynhyrchu oddeutu 13,555 o swyddi yng Nghymru ar y cyfan, ac yn cyfrannu 1.3 y cant o Werth Ychwanegol Gros (GVA) Cymru.
£456m yw allbwn y Brifysgol ei hun, yn ogystal â £613m yn ychwanegol mewn diwydiannau eraill ledled y DU, drwy wariant ei myfyrwyr yn bennaf, gyda'r mwyafrif – oddeutu £458m – yng Nghymru.
Mae'r Brifysgol yn denu 12,045 o fyfyrwyr i Gymru o rannau eraill o'r DU, a 6,605 o fyfyrwyr o'r tu allan i'r DU. Mae ein myfyrwyr sydd o'r tu allan i'r UE yn cynhyrchu £94m ar gyfer economi Cymru, sy'n cyfrif am bron i 800 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.
Er mai yng Nghaerdydd y gwelir y rhan fwyaf o'n heffaith economaidd, mae'r Brifysgol yn cael effaith o bwys ar economi gyffredinol Cymru hefyd, a oedd yn fy synnu. Mae bron un rhan o dair yr holl effaith economaidd yn digwydd y tu allan i Gaerdydd. Mae hyn yn adlewyrchu'r ffordd y mae ein dylanwad yn treiddio drwy economi Cymru ac economi ehangach y DU, gan olygu bod gweithgareddau'r Brifysgol yn dal i gynnig manteision i leoedd sy'n gymharol bell o Gaerdydd.
Mae'n gofnod yr ydym yn falch ohono, ond rydym am wneud mwy.
Fis Hydref diwethaf, amlinellais gynlluniau ar gyfer System Arloesedd Caerdydd newydd. Ein nod yw dod yn beiriant a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer ffyniant, iechyd a thwf y dyfodol yng Nghymru, y DU a gweddill y byd.
Bydd oddeutu £300m yn cael ei fuddsoddi mewn adeiladau newydd er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, ynghyd â newidiadau yr ydym yn eu gwneud fel bod arloesedd yn rhan annatod o wead y Brifysgol.
Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i adeiladu Parc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol cyntaf y byd, a fydd yn gallu defnyddio ymchwil o'r radd flaenaf i ganfod atebion i rai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas a'r byd.
Byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol ac yn buddsoddi mewn cyfleusterau a phobl.
Ymhen ychydig ddyddiau, bydd ein gwaith i ysgogi'r economi i'w weld yn ein Gwobrau Arloesedd ac Effaith blynyddol.
Mae systemau modelu data newydd sy'n helpu i dorri ciwiau a chyflymu mynediad at wasanaethau ysbyty hanfodol y GIG, a dyluniadau cartref newydd fforddiadwy sy'n optimeiddio hunangynhaliaeth ynni, ymhlith llu o ddatblygiadau a wnaed yn ddiweddar ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy'n falch o'r gwaith yr ydym yn ei wneud gyda'r elusen ddigartrefedd, Llamau, i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau ar gyfer pobl ifanc ddigartref ac agored i niwed yng Nghymru. Bydd yr holl brosiectau hyn a mwy yn cael eu cydnabod am eu cyfraniad i Gymru a'u heffaith ar gymdeithas yn gyffredinol.
Mae'r adroddiad newydd yn dangos bod gennym ni rywbeth i'w ddathlu. Mae Prifysgol Caerdydd yn hollbwysig i iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru yn y dyfodol, ac ni fyddwn yn eich siomi.
Yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor, Prifysgol Caerdydd
Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn y Western Mail yn gyntaf, Mehefin 11, 2015.