Gweinidog yn cwrdd ag arloeswyr Medicentre
15 Chwefror 2018
Cafodd technoleg feddygol ac ymchwil arloesol eu harddangos yn ystod taith un o weinidogion Llywodraeth y DU o amgylch Medicentre Cardiff.
Aeth yr Arglwydd Henley, Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), o amgylch cyfleusterau Medicentre a chyfarfod ag arweinwyr y cwmni yn ystod ymweliad â Phrifddinas Cymru.
Yn ôl y Gweinidog Busnes, sy'n arwain ar strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU yn Nhŷ'r Arglwyddi: “Rwy’n llawn edmygedd o hyd a lled yr arloesi sy’n cael ei ddatblygu yn Medicentre Caerdydd. Mae’r gwaith sy’n cael ei gynnal yn y cyfleuster yn adlewyrchu Strategaeth Ddiwydiannol fodern, uchelgeisiol y Llywodraeth, gan ddwyn ynghyd arbenigedd academaidd a gallu’r diwydiant i dyfu’r economi, a’i gwneud yn addas ar gyfer y dyfodol.”
Mae Cardiff Medicentre, sydd wedi’i rheoli ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn meithrin cwmnïau biotech a medtech sy’n dechrau arni. Caffaelwyd rhai gan fentrau mwy o faint am symiau gwerth miliynau o bunnoedd. Mae eraill yn parhau i godi cyfalaf menter wrth iddynt dyfu.
Yn ôl yr Athro Ian Weeks, Pennaeth Dros Dro yr Ysgol Meddygaeth a chyd-aelod o Fwrdd Medicentre, “mae’r Medicentre yn nodwedd allweddol o’r Partneriaeth Arloesedd Clinigol a ffurfiwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda'r GIG a'r diwydiant er budd cleifion, budd iechyd economaidd a thwf economaidd”.
Yn ôl Peter Welsh, Cyfarwyddwr Llywodraethu Corfforaethol ar gyfer Caerdydd a'r Fro ac aelod o Fwrdd Medicentre: “Yn sgil ymweliad yr Arglwydd Henley, cafodd y cwmnïau angor gyfle gwych i esbonio’r modd y mae eu gwaith yn alinio â Strategaeth Ddiwydiannol y Llywodraeth, gan drosi ymchwil i mewn i’r syniadau busnes sy’n llywio ystod o brosiectau newydd MedTech, o arbenigedd uwchsain MedaPhor i waith Alesi, sy’n datblygu technolegau sy’n gwella prosesau llawfeddygol uwch.”
Mae’r Medicentre – sydd wedi’i lleoli ar dir Prifysgol Athrofaol Cymru, yn agos i Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd – yn cynnig 32 uned o swyddfeydd a wasanaethir a chyfleusterau labordy llaith sydd o fewn tafliad carreg i ymchwil academaidd blaengar ac ymarfer clinigol.