Gweithdai i roi blas go iawn i bobl ar sut mae coginio yn y ffordd Neolithig
9 Chwefror 2018
Mae archeolegwyr o Brifysgol Caerdydd yn gweithio mewn partneriaeth â chydweithwyr o Brifysgol Efrog ac English Heritage i archwilio'r bwyd oedd yn cael ei fwyta gan y lluoedd a adeiladodd safle treftadaeth y byd, Côr y Cewri.
Bydd Consuming Prehistory, sydd wedi'i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, yn rhoi blas i bobl ar y darganfyddiadau diweddar am sut oedd ein hynafiaid yn paratoi bwyd ac yn ei fwyta. Daeth y wybodaeth i’r amlwg ym mhrosiect Feeding Stonehenge.
Mae Consuming Prehistory yn ategu arddangosfa FEAST!yng Nghanolfan Ymwelwyr Côr y Cewri, a bydd yn caniatáu i'r cyhoedd ystyried ac archwilio:
- Beth oedd ein hynafiaid Neolithig yn ei fwyta mewn gwirionedd, a sut oeddent yn ei baratoi a’i goginio?
- Pa mor bell y teithiodd pobl i adeiladu neu gasglu cerrig yng Nghôr y Cewri?
- Sut lwyddon nhw i ddod o hyd i fwyd ar gyfer cynifer o bobl?
Bydd cyfleoedd ar gael i bawb gael gwybod rhagor mewn cyfres o ddigwyddiadau ar-lein a ledled y wlad drwy gydol 2018 - gan gynnwys yn yr ardal dreftadaeth y byd o dan sylw. Gall y rhai sy’n cymryd rhan gael gwybod rhagor am sut oedd ein hynafiaid cynhanesyddol yng Nghôr y Cewri yn cynhyrchu, cadw, paratoi a chyflwyno bwyd. Mewn gweithdai arbennig, bydd plant ysgol, teuluoedd, oedolion ifanc a grwpiau cymunedol lleol yn gallu ymgysylltu â deunyddiau archaeolegol a thechnolegau hynafol. Byddant yn cymharu bwyta cymdeithasol heddiw â bywyd filoedd o flynyddoedd yn ôl gyda chymorth tystiolaeth ddiddorol a ddarganfuwyd yn ddiweddar.
Bydd y gweithgareddau'n amrywio o ail-greu a threialu potiau coginio Neolithig i dorri cig ag offer cerrig. Yn ogystal, bydd pobl ar draws y byd yn gallu cael gafael ar adnoddau addysgol ar y we a gynlluniwyd ar gyfer addysgu cyfnodau allweddol dau i bump yn rhan o'r prosiect.
Mae'r archaeolegwyr yn datblygu gweithdai rhyngweithiol a phenodol hefyd i'w cynnal mewn gwyliau ar draws y DU mewn dull llwyddiannus a arloeswyd gan Guerilla Archaeology. Bydd y torfeydd yn y gwyliau hyn yn cyfateb i’r niferoedd enfawr a fyddai’n ymgynnull yng Nghôr y Cewri a Durrington Walls gerllaw. Bydd y rhain yn cynnwys Gŵyl Lunar (27ain - 29ain Gorffennaf 2018) a’r Settlement yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd (13eg- 15fedAwst 2018).
Mae ymgynulliad Guerilla Archaeology sy’n cael ei gyflwyno ar draws y DU gan archeolegwyr, gwyddonwyr ac artistiaid ar y cyd, eisoes wedi annog miloedd o bobl i ymgysylltu'n uniongyrchol â'r ddisgyblaeth yn ystod rhai o wyliau mwyaf adnabyddus y byd.
Meddai Dr Jacqui Mulville, Pennaeth Archaeoleg a Chadwraeth yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd Prifysgol Caerdydd a chrëwr Guerilla Archaeology: "Ymddengys ei bod hi’n amhosibl bodloni’r awydd am archeoleg, a phopeth sy’n ymwneud â Chôr y Cewri.
Mae gwaith diweddar wedi rhoi gwybodaeth ddiddorol newydd am fwyd a gwledda yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Ar yr un pryd, mae mentrau fel Guerrilla Archaeology wedi dangos bod pobl o bob haen o gymdeithas yn awyddus i ddysgu rhagor am y gorffennol ac eisiau am chwarae rhan amlwg wrth archwilio a dehongli gwybodaeth archeolegol."
Ychwanegodd: "Mae'r prosiect yn ymwneud â chreu cyfleoedd cyffrous er mwyn i’r cyhoedd ymgysylltu ag ymchwil archeolegol.
Bydd ymwelwyr â Chôr y Cewri yn cael y cyfle i ddysgu rhagor mewn digwyddiadau arbennig yng Nghanolfan Ymwelwyr Côr y Cewri, a thrwy weithdai sy'n canolbwyntio ar fwyd yn yr ardal leol. Bydd hyn yn galluogi grwpiau lleol i gymryd rhan yn y dreftadaeth ar garreg eu drws.
Hanfod hyn oll yw y bydd unrhyw un yn unrhyw le yn gallu cael gafael ar weithgareddau a gynlluniwyd yn arbennig, gan gynnwys cystadleuaeth creu bwydlen gynhanesyddol. "
Mae Dr Julia Best, sŵarchaeolegydd a Darlithydd Bioarchaeoleg sy’n gweithio ar y prosiect ym Mhrifysgol Caerdydd, yn esbonio rhagor am beth i'w ddisgwyl: "Yn union fel heddiw, roedd gwledda a rhannu bwyd yn bwysig i'n hynafiaid hynafol.
Nid powlen o gruan llwyd, diflas oedd yr unig fwyd cynhanesyddol. Mae gennym dystiolaeth eu bod wedi bwyta porc rhost, cynhyrchion caws, a stiwiau cig eidion yn ôl pob tebyg. Mae'r bwydydd hyn yn boblogaidd hyd heddiw, a gwyddom eu bod yn cael eu bwyta yn y byd Neolithig. Yn ein gweithdai, bydd pobl o bob oed yn cael profiad ymarferol gydag esgyrn anifeiliaid archeolegol, yn gweld sut oedd cig yn cael ei goginio, a hyd yn oed rhoi cynnig ar goginio mewn modd cynhanesyddol, gan ddefnyddio'r mathau o offer oedd ar gael miloedd o flynyddoedd yn ôl. "
Digwyddiad arbennig sy’n canolbwyntio ar wledda fydd penllanw prosiect Consuming Prehistory yng Nghôr y Cewri ar 1af - 2af Medi 2018. Cewch y wybodaeth ddiweddaraf gan gynnwys newyddion am ddigwyddiadau ledled y DU, drwy ddilyn blog Consuming Prehistory.