‘Oscars’ Addysg Uwch
7 Chwefror 2018
Mae'r prosiect Ymgysylltu yn ennill gwobr fawr yng Ngwobrau Times Higher Education
Mae Prosiect Treftadaeth Ailddarganfod Caerau a Threlái (CAER) wedi ennill Gwobr Cyfraniad Rhagorol i’r Gymunedol Leol yn 2017 yng Ngwobrau nodedig Times Higher Education.
Mae'r prosiect ysbrydoledig yn canolbwyntio ar Fryngaer Caerau, sef safle treftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol. Mae’r safle yng nghanol cymunedau bywiog sy'n wynebu heriau cymdeithasol ac economaidd sylweddol. Enillodd glod am ei ethos o roi rôl ganolog i bobl leol mewn ymchwil archeolegol a hanesyddol drwy gynnal cloddiadau, dadansoddiadau arteffactau, arddangosfeydd a ffilmiau.
Ers ei sefydlu yn 2012, mae CAER wedi adeiladu partneriaethau gyda saith ysgol leol gan gynnwys 1,538 o ddisgyblion mewn gweithgareddau ar y cyd, ac wedi ymgysylltu â bron i 15,000 o ymwelwyr mewn nifer o ddigwyddiadau.
Mae'r prosiect aml-wobrwyol yn bartneriaeth gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd, elusen datblygu cymunedol, Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, ysgolion lleol, grwpiau cymunedol a sefydliadau treftadaeth mawr yng Nghymru, dan arweiniad y cyd-gyfarwyddwyr, Dr Dave Wyatt a'r archeolegydd Dr Oliver Davis.