Ein myfyrwyr a’n cynfyfyrwyr yng ngharfanau’r Chwe Gwlad
1 Chwefror 2018
Mae Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dechrau’r penwythnos hyn gyda myfyrwyr a chynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn barod i neud argraff yn rhan o garfanau’r menywod a’r dynion.
Mae Hallam Amos, sy’n dioddef o anaf ar hyn o bryd, yng ngharfan y dynion, tra bod Elinor Snowsill, Robyn Wilkins a Lilianna Podpadec yng ngharfan y menywod.
Mae Liliana, myfyrwraig blwyddyn gyntaf sy’n astudio daearyddiaeth, a Hallam, sy’n astudio meddygaeth, yn fyfyrwyr presennol tra bod Elinor a Robyn yn gynfyfyrwyr.
Mae Hal, sy’n chwarae i’r Dreigiau, wedi’i ddewis yng ngharfan y dynion ar gyfer y Chwe Gwlad unwaith yn rhagor ar ôl gwneud cryn argraff i Gymru yn ystod gemau rhyngwladol yr Hydref yn 2017, gan sgorio ceisiadau yn erbyn Awstralia a Georgia.
Mae’n dilyn ôl traed Jamie Roberts a oedd hefyd yn chwarae i Gymru tra’n astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.
Yn y cyfamser, mae Liliana o dîm y Dreigiau ymysg y chwaraewyr datblygu yng ngharfan Cymru a bydd yn hyfforddi gyda’r uwch-garfan drwy gydol y bencampwriaeth.
Mae hi’n rhan o Raglen Perfformiad Uchel y Brifysgol, sy’n helpu myfyrwyr i ragori yn eu gyrfaoedd chwaraeon ac academaidd yn ystod eu hamser yng Nghaerdydd.
Mae menywod Cymru yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn yr Alban ym Mharc Eirias, Bae Colwyn, ddydd Gwener 2 Chwefror, tra bod y dynion yn wynebu’r Alban y diwrnod canlynol yn Stadiwm Principality Caerdydd.