Rhwystro twf canser y pancreas
1 Chwefror 2018
Defnyddiwyd feirws anadlol yn llwyddiannus i rwystro twf canser y pancreas, yn ôl astudiaeth gynnar gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Sefydliad Canser Barts (BCI) ym Mhrifysgol Llundain Queen Mary (QMUL).
Mae'r astudiaeth, a ariannwyd gan yr elusen Cronfa Ymchwil Canser y Pancreas, yn awgrymu y gallai'r dechneg newydd ddod yn driniaeth newydd addawol ar gyfer cleifion â'r haint ymosodol hwn, ac y gellid ei chyfuno â thriniaethau cemotherapi presennol i wella'r tebygolrwydd o oroesi.
Dywedodd Dr Stella Man, o BCI: "Rydym wedi dangos am y tro cyntaf bod modd targedu canser y pancreas yn benodol gan ddefnyddio fersiwn sydd wedi'i haddasu o'r feirws adenofeirws.
"Mae'r feirws newydd yn heintio ac yn lladd celloedd canser y pancreas yn benodol, ac yn achosi ychydig iawn o sgil effeithiau mewn meinwe iach cyfagos. Mae ein strategaeth dargedu'n ddetholus ac yn effeithiol, ac yn ogystal â hynny rydym wedi peiriannu'r feirws fel y gellir ei roi drwy lif y gwaed i gyrraedd y celloedd canser sydd wedi lledaenu drwy'r corff.
"Os ydym yn llwyddo cadarnhau'r canlyniadau hyn mewn treialon clinigol, gallai hyn fod yn driniaeth addawol newydd ar gyfer cleifion canser y pancreas, a gellid ei chyfuno â chyffuriau cemotherapi sydd eisoes yn bodoli i ladd celloedd canser sy'n goroesi."
Ychwanegodd Dr Alan Parker, o Brifysgol Caerdydd, arweinydd tîm a helpodd i ddylunio a chreu'r feirws: "Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous, ac yn cynnig gwir botensial i gleifion â chanserau pancreatig, yn ogystal â mathau eraill o ganser sy'n mynegi integrin αvβ6. Mae'n debygol y bydd gwelliannau ychwanegol i'r feirws yn gallu gwella'r potensial i dargedu tiwmorau drwy'r llif gwaed, ac y gellir gwella effeithiau therapiwtig y feirws drwy beiriannu'r feirws i or-fynegi asiantau therapiwtig i ysgogi'r system imiwnedd letyol i ymladd yn erbyn y canser. Edrychwn ymlaen at ddatblygu'r syniadau hyn yn y dyfodol ac at ehangu ein gwaith cydweithredol â Sefydliad Canser Barts."
Bob blwyddyn mae tua 9,800 o bobl yn y DU yn cael diagnosis o ganser y pancreas. Mae'r clefyd yn arbennig o ymosodol ac mae ganddo'r gyfradd oroesi isaf o blith yr holl ganserau – mae llai na phump y cant o gleifion sy'n cael diagnosis yn goroesi am bum mlynedd neu fwy.
Mae'r rhesymau y tu ôl i'r cyfraddau goroesi isel hyn yn cynnwys diagnosis hwyr o'r clefyd a gallu'r canser i ddatblygu ymwrthedd i therapïau presennol yn gyflym. I osgoi ymwrthedd i gyffuriau, mae defnyddio feirysau sydd wedi eu mwtadu wedi dod i'r amlwg fel strategaeth addawol newydd ar gyfer ymosod ar ganserau mewn modd mwy targededig.
Fe wnaeth yr ymchwil, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn Molecular Cancer Therapeutics, fanteisio ar nodwedd unigryw celloedd canser y pancreas ͏– moleciwl penodol o'r enw alpha v beta 6 (αvβ6), sydd ar arwyneb llawer o gelloedd canser y pancreas ond, yn bwysig, nid ar gelloedd arferol.
Addasodd y tîm yr adenofeirws i arddangos protein bach ychwanegol ar ei haen allanol sy'n adnabod ac yn rhwymo i foleciwlau αvβ6. Unwaith y mae'r feirws wedi mynd i mewn i'r gell canser, mae'r feirws yn dyblygu ac yn cynhyrchu sawl copi o'i hun cyn ffrwydro allan o'r gell a'i dinistrio yn y broses. Yna gall y copïau feirysol newydd rwymo i gelloedd canser cyfagos a bydd y gylchred yn ailddechrau, ac yn y pen draw bydd y tiwmor yn diflannu'n gyfan gwbl.
Profodd yr ymchwilwyr y feirysau ar gelloedd dynol canser y pancreas, a gafodd eu himpio ar lygod, a chanfod eu bod yn rhwystro twf canser.
Mae'r cysyniad o ddefnyddio feirysau sydd wedi eu haddasu wedi dangos canlyniadau addawol mewn amrywiaeth o ganserau gan gynnwys yr ymennydd, y pen a'r gwddf, a'r prostad. Mae ymchwilwyr yn dweud bod ei feirws newydd yn fwy penodol ac effeithiol na fersiynau blaenorol o'r feirws, a bod ganddo'r fantais ychwanegol o allu cydweithio â chyffuriau cemotherapi a ddefnyddir ar hyn o bryd yn y clinig.
Fel yn achos pob therapi newydd posibl, bydd angen rhagor o amser cyn cynnal treialon clinigol dynol, fel yr esbonia Dr Gunnel Halldén: "Ar hyn o bryd, rydym yn chwilio am arian newydd i gefnogi datblygiad pellach at dreialon clinigol o fewn y ddwy flynedd nesaf. Pan fydd gennym yr arian hwn, bydd treialon cyfnod cynnar fel arfer yn cymryd tua phum mlynedd i bennu a yw'r therapi'n ddiogel ac yn effeithiol."