Trafod democratiaeth
1 Chwefror 2018
Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin ac Arglwydd Lywydd y Cyfrin Gyngor, y Gwir Anrhydeddus Andrea Leadsom AS, wedi ymweld â Phrifysgol Caerdydd i siarad â myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith & Gwleidyddiaeth.
Cafodd grŵp o fyfyrwyr ôl-raddedig o’r Ysgol y cyfle i siarad â’r Arweinydd am ddemocratiaeth seneddol, canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl sydd ar y gweill, ac ymadawiad y DU o’r UE.
Meddai Andrea Leadsom: “Roedd gan y myfyrwyr y gwnes i gwrdd â nhw ym Mhrifysgol Caerdydd ddealltwriaeth dechnegol amlwg o faterion cyfoes, a phleser o’r mwyaf oedd siarad â nhw. Roedd eu safbwyntiau yn procio’r meddwl gan ddangos cyfraniad mor werthfawr y gall pobl sy’n ymhel â gwleidyddiaeth ei wneud yn ein democratiaeth seneddol.”
Mae Michael Woodland yn astudio at radd Meistr mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus yn y Brifysgol. Roedd ganddo ddiddordeb clywed am wleidyddiaeth mewn cyd-destun byd go-iawn: “Gwrandawodd Arweinydd y Tŷ ar ein barn ar faterion yn amrywio o ymgysylltiad gwleidyddol, dyfodol datganoli a’r heriau parhaus sy’n gysylltiedig â phroses Brexit. Arweiniodd hyn at rai trafodaethau bywiog ymhlith y myfyrwyr a gyda’r Arweinydd ei hun.
“Roedd yn hynod ddiddorol clywed am bynciau gwleidyddol yr ydym yn clywed ac yn darllen amdanynt yn y newyddion o safbwynt aelod o bwys o fewn y llywodraeth. Roedd yn brofiad gwerth chweil ac fe helpodd i ddyfnhau ein dealltwriaeth o bynciau yr ydym yn eu hastudio yng Nghaerdydd.”
“Roedd yn wych cael cwrdd a thrafod ag aelod o'r Cabinet; roedd yn ddiddorol iawn ac fe roddodd wyneb dynol i beirianwaith San Steffan.”
Roedd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol, a’r Athro René Lindstädt, Pennaeth yr Ysgol, yno hefyd.
Dywedodd yr Athro Holford: “Pleser o’r mwyaf oedd croesawu Arweinydd Tŷ’r Cyffredin. Roedd yn ddiddorol cael cipolwg gan Arweinydd y Tŷ ar Brexit, y broses ddemocrataidd a menywod mewn gwleidyddiaeth...”
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0009/2493198/364385-1612200496962.jpeg?w=100&h=100&auto=format&crop=faces&fit=crop)
“Roedd yn arbennig o braf gweld ein myfyrwyr yn cymryd rhan, a oedd yn cyfrannu at y drafodaeth gyda dealltwriaeth glir. Mae gan Brifysgol Caerdydd rai o fyfyrwyr mwyaf disglair y DU, ac rydym yn falch o’u diddordeb mewn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas.”