Prime Minister announces Institute of Coding
31 Ionawr 2018
Bydd Prifysgol Caerdydd yn rhan o Sefydliad Codio newydd sbon a sefydlir i fynd i'r afael â bwlch sgiliau digidol y DU drwy hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol.
Wrth siarad yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos, cyhoeddodd y Prif Weinidog Theresa May gyllid o £20 miliwn i ddod â phrifysgolion, busnesau ac arbenigwyr diwydiant at ei gilydd i arfogi pobl o bob oed â'r sgiliau digidol sydd eu hangen. Bydd buddsoddiad y llywodraeth o £20 miliwn yn cael ei gyfateb ag £20 miliwn arall o fyd diwydiant, gan gynnwys cyfraniadau mewn da fel hyfforddiant a chyfarpar.
Mae'r Sefydliad Codio'n gonsortiwm o fusnesau sy’n cynnwys IBM, Cisco, BT a Microsoft, busnesau bach a chanolig, 25 o brifysgolion a chyrff proffesiynol fel Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain a CREST.
Mae'r 25 prifysgol, dan arweiniad Prifysgol Caerfaddon, yn amrywio o arweinwyr sector mewn busnes a chyfrifiadureg (UCL a Phrifysgol Newcastle), i arbenigwyr mewn celf a dylunio (Prifysgol y Celfyddydau), ac arbenigwyr ehangu cyfranogiad ac allgymorth (y Brifysgol Agored a Birkbeck, Prifysgol Llundain).
Bydd y Brifysgol yn chwarae rhan benodol yn hybu cyflogadwyedd graddedigion drwy gyflenwi rhaglenni gradd yn canolbwyntio ar broblemau busnes yn y byd real a datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar raddedigion 'parod am waith'.
Yn ogystal â hyn, bydd y Brifysgol hefyd yn cyfrannu at fentrau wedi'u hanelu at ehangu cyfranogiad mewn addysg yn gysylltiedig â thechnoleg drwy weithdai, gwersylloedd dysgu a gweithgareddau allgymorth.
Bydd llawer o'r gwaith hwn yn ymwneud â gweithgareddau'r Academi Meddalwedd Genedlaethol, canolfan ragoriaeth y Brifysgol ar gyfer peirianwyr meddalwedd yng Nghasnewydd.
Mae'r Academi eisoes yn cyfrannu at lenwi'r bwlch digidol drwy ei rhaglen gradd peirianneg meddalwedd arloesol. Pan fydd myfyrwyr yn graddio o'r Academi, bydd ganddynt y sgiliau angenrheidiol y mae busnesau'n chwilio amdanynt er mwyn dechrau gweithio ar unwaith.
Cyflawnir hyn drwy gydweithio gyda diwydiant ar broblemau busnes byd real drwy gydol y rhaglen gradd tair blynedd.
Mae gan yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg, y mae'r Academi'n rhan ohoni, hefyd raglen sefydledig o weithgareddau allgymorth, gyda digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn wedi'u hanelu at ysbrydoli pobl ifanc a'u teuluoedd i ymgysylltu â thechnoleg.
"Gyda'r Sefydliad Codio, ein gobaith yw adeiladu ar y gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud yn yr Academi Meddalwedd Genedlaethol a chynhyrchu graddedigion sydd ymhlith y mwyaf deniadol gyda'r holl sgiliau a phrofiad sydd eu hangen i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus."
Dywedodd y Gweinidog Prifysgolion Sam Gyimah: "Mae ffrwd o sgiliau digidol o'r radd flaenaf yn elfen hanfodol o allu'r DU i ffurfio ein dyfodol. Drwy gydweithio, gall prifysgolion, cyflogwyr ac arweinwyr diwydiant helpu graddedigion i adeiladu'r sgiliau cywir, mewn meysydd yn amrywio o seiber ddiogelwch i ddeallusrwydd artiffisial i ddylunio diwydiannol.
"Bydd gan y Sefydliad Codio ran ganolog i'w chwarae yn hyn o beth. Bydd gan gyflogwyr fewnbwn pendant i'r cwricwlwm, gan weithio law yn llaw gyda'r prifysgolion i ddatblygu sgiliau arbenigol yn y meysydd ble mae eu hangen fwyaf."
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i http://www.hefce.ac.uk/skills/IoC/