Cymerwch ran mewn cystadleuaeth ryngwladol
30 Ionawr 2018
Mae Prifysgol Caerdydd yn gwahodd myfyrwyr y biowyddorau i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil annibynnol dan arweiniad myfyrwyr, gyda chyfle i deithio i UDA.
Mae cystadleuaeth iGEM yn cynnwys timau o israddedigion o ledled y byd sy'n arddangos eu gwaith yn dylunio a gweithredu prosiect bioleg synthetig cyffrous dan arweiniad myfyrwyr.
Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Prifysgol Caerdydd wedi dod yn fwy amlwg ar lefel fyd-eang drwy gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
Bob blwyddyn, rhoddir cyfle i saith myfyriwr i ddylunio ac arwain prosiect fel rhan o leoliad haf wyth wythnos â chyflog, cyn cyflwyno eu hymchwil mewn cynhadledd derfynol yn Boston, UDA.
Dywedodd Dr Geraint Parry, o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: "Rydym bellach yn recriwtio ar gyfer tîm 2018.
"Mae cystadleuaeth iGEM yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gydag amrywiaeth eang o arbenigeddau a pharodrwydd i ddysgu rhywbeth newydd.
"Rydym yn annog ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn prosiect labordy newydd ar bwnc a arweinir gan fyfyrwyr fydd yn ymwneud â bioleg synthetig planhigion.
"Bydd y tîm yn ymgysylltu â'r cyhoedd, yn cymryd rhan mewn digwyddiadau addysgol, a gweithgareddau arferion dynol.
"Bydd ein myfyrwyr hefyd yn dylunio ac yn paratoi gwefan y prosiect, fydd yn cofnodi llwyddiannau'r timau.
"Byddaf yn trafod cystadleuaeth iGEM am ganol dydd ar 6 Chwefror yn Martin Evans C0.13, ac rydym yn croesawu myfyrwyr i ddod draw i gael rhagor o wybodaeth."
Os oes gennych ddiddordeb yn y prosiect, ebostiwch Dr Geraint Parry yn ParryG5@caerdydd.ac.uk.