Newid enw'r Ysgol yn lansio blwyddyn o ddatblygiadau mawr
29 Ionawr 2018
Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol wedi ei hailenwi’n Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ar ôl i Brifysgol Caerdydd gymeradwyo'r newid yn swyddogol ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf.
Mae'r enw newydd yn adlewyrchu ehangder llawn gweithgareddau diwylliannol yr Ysgol yn well, sy'n cynnwys addysgu, ymchwil, ysgolheictod, ac ymgysylltu â'r cyhoedd.
Ers i Syr Tom Hopkinson sefydlu’r Ysgol ym 1970, mae wedi newid ei henw sawl gwaith i adlewyrchu'r cynnydd ym mhortffolio’r cyrsiau a gynigir ganddi, ei hamrywiaeth a’i henw da.
Mae'r newid yn cyd-daro â blwyddyn brysur i'r Ysgol wrth iddi baratoi i symud i adeilad modern yn natblygiad Sgwâr Canolog Caerdydd, ger y darlledwr cenedlaethol BBC Cymru.
Bydd symud i Rif 2 y Sgwâr Canolog yn gwella rhyngwyneb diwydiant-academaidd, ac yn rhoi myfyrwyr yng nghanol amgylchedd cyfryngau bywiog dinas Caerdydd.
Dywedodd Pennaeth yr Ysgol, Stuart Allan: "Rydym yn falch iawn o hanes ein Hysgol, ac rydym yn gweithio'n galed i adeiladu ar ein cryfderau â mynd i gyfeiriadau newydd cyffrous.
"Roedd creu ein proffil newydd ochr yn ochr ag adleoli yn teimlo fel cam synhwyrol i ni," ychwanegodd.
Mae'r Ysgol bellach yn cynnig ystod eang o gyrsiau BA, MA a PhD gyda meysydd llafur sy'n cynnwys newyddiaduraeth ddigidol a chyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus, diwylliant poblogaidd, rheoli cyfryngau a chyfathrebu byd-eang.
Mae hefyd yn datblygu ei arbenigedd mewn addysgu ac ymchwil sy'n canolbwyntio ar y diwydiannau diwylliannol a chreadigol. Mae hyn yn cynnwys creu cysylltiadau â nifer eang o bartneriaid y tu allan i'r Brifysgol.
Daeth yr Athro Allan i'r casgliad, "Mae ein henw newydd yn adlewyrchu pwysigrwydd cynyddol newyddiaduraeth, cyfryngau a diwylliant i gymdeithasau modern. Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad at gyfoethogi addysg ein myfyrwyr a rhagolygon gyrfa yn y dyfodol."