Ysgol Busnes Caerdydd yn derbyn cymeradwyaeth fyd-eang am ragoriaeth
23 Ionawr 2018
Mae Ysgol Busnes Caerdydd wedi cael ei hail-achredu gan y Gymdeithas Gwella Ysgolion Busnes Colegol Uwch (AACSB) Rhyngwladol yn dilyn proses adolygu ac asesu trwyadl.
Mae'r ail-achrediad pum mlynedd yn cadarnhau bod yr Ysgol yn parhau i sicrhau bod pymtheg safon AACSB Rhyngwladol yn cael eu cymhwyso'n gyson, ochr yn ochr â chynnal rhaglen gadarn ar gyfer gwelliant parhaus yn ei haddysgu, ei hymchwil a'i hunan-lywodraethu.
Achredwyd yr Ysgol yn wreiddiol gan AACSB Rhyngwladol, corff achredu’r Unol Daleithiau a ffurfiwyd yn 1913 i gydnabod ysgolion busnes o ansawdd uchel sy'n cael eu harwain gan genhadaeth, yn 2012. Ym mis Tachwedd 2017, yn rhan o'r broses ail-achredu, ymwelodd Tîm Adolygu Cymheiriaid AACSB (PRT) â’r Ysgol. Roedd hwn yn gyfle i'r PRT, dan arweiniad yr Athro Roy Green, Deon Ysgol Busnes, Prifysgol Technoleg Sydney, i siarad ag ystod eang o gyfadrannau, staff, myfyrwyr a phartneriaid i ystyried gweithrediadau cyfredol yr Ysgol a chynlluniau datblygu ar gyfer y dyfodol.
Llwyddiant ac effaith
Ers ei hachrediad gwreiddiol, mae'r Ysgol wedi cyflawni llwyddiant ac effaith sylweddol yn ei weithgareddau addysgu ac ymchwil. Mae wedi cael lle yn y 100 uchaf yn safleoedd byd-eang yn ôl pwnc y QS a Times Higher Education ac mae’n 6ed ymhlith 101 o ysgolion busnes y DU yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 (REF) ar gyfer ansawdd ymchwil, a'r 1af ar gyfer ei hamgylchedd ymchwil.
O ran ei llywodraethu a'i chenhadaeth, datblygu a lansio strategaeth Gwerth Cyhoeddus beiddgar a blaengar yr Ysgol yn 2015 oedd y prosiect mwyaf iddi ymgymryd ag ef. Bwriad y strategaeth yw gwella amodau cymdeithasol ac economaidd trwy addysgu rhyngddisgyblaethol ac ymchwil sy'n mynd i'r afael â heriau mawr.
Yn adroddiad PRT 2017, cymeradwywyd yr Ysgol am amrywiaeth o gryfderau, nodweddion unigryw ac arferion effeithiol. Yn benodol, tynnwyd sylw at strategaeth Gwerth Cyhoeddus Arloesol yr Ysgol. Mae'r adroddiad yn nodi: “Mae'r Ysgol wedi datblygu gweledigaeth a cenhadaeth unigryw a chymhellol sy'n canolbwyntio ar ‘Werth Cyhoeddus’ [...] mae'r genhadaeth hon wedi'i hymgorffori'n ddiwylliannol yn yr Ysgol, gan gynnwys yn ei rhaglenni ymchwil, addysgu ac ymgysylltu.”
Cafodd yr Ysgol ganmoliaeth uchel hefyd am:
- gymryd ymagwedd 'gyfranogol' at lywodraethu, gyda Bwrdd Rheoli Cysgodol sy’n ymgysylltu â'r gyfadran;
- ei strategaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth, gyda chymeradwyaeth Athena SWAN, wedi'i goruchwylio gan Bwyllgor Pobl penodol;
- rhoi arweinyddiaeth a rheolaeth effeithiol dan arweiniad cyfraniad enghreifftiol y Deon a chefnogir gan staff gwasanaethau proffesiynol pwrpasol a galluog;
- ymchwil ryngddisgyblaethol gydag effaith economaidd-gymdeithasol;
- ymagwedd arloesol tuag at gwricwla addysgu, gyda rhaglenni gradd arbenigol newydd, gan gynnwys rhaglenni yn y Gymraeg, ac ymrwymiad i adolygu cynigion wrth gyd-fynd â'i genhadaeth Gwerth Cyhoeddus erbyn 2020;
- ymrwymiad cryf i adeiladu ymgysylltiad â busnes a'r gymuned;
- cyfraniad o £200miliwn y flwyddyn i'r economi leol;
- Bwrdd Cynghori diwydiant bywiog ac amrywiol.
Croesawodd yr Athro Martin Kitchener, Deon Ysgol Busnes Caerdydd, y newyddion am yr ail achrediad: “Dim ond tua 7% o ysgolion busnes y byd sy’n cael achrediad AACSB, felly rydym ymhlith y goreuon...”
“Rwy'n hynod o falch i o fod yn Ddeon Ysgol Busnes Caerdydd ac o weithio gyda thîm o bobl mor ymroddedig a gweledigaethol. Yn ystod fy nghyfnod yn y swydd, rydym wedi cyflawni llwyddiant sylweddol yn allanol yn ogystal ag ysgogi newid diwylliannol ac athronyddol yn fewnol i gwestiynu’r hyn yr ydym yn ei wneud a sut y gallwn gyflawni gwerth cymdeithasol ac economaidd gwych trwy ein haddysgu, ymchwil a llywodraethu.
“Nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau ac rydym yn parhau i gydweithio â'r Brifysgol a'n partneriaid allanol i gyflawni ein hamcanion a gwella ein cyfraniadau.”
Adolygir achrediad AACSB Rhyngwladol Ysgol Busnes Caerdydd eto yn 2022-23.