Ysgol i gynnal cynhadledd fawr ynglŷn â'r 'Contract Rhywiol'
23 Ionawr 2018
Bydd grŵp ymchwil y Gyfraith a Rhywedd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth ynghyd â chyfnodolyn Feminist Legal Studies yn cynnal cynhadledd fawr ar 10 a 11 Mai 2018. Bydd y gynhadledd yn nodi 30 mlynedd ers cyhoeddi gwaith arloesol Carole Pateman The Sexual Contract (Gwasg Prifysgol Stanford 1988).
Bydd Carole Pateman, Athro Emeritws Nodedig ym Mhrifysgol Califfornia yn Los Angeles (UCLA) yn agor y gynhadledd drwy siarad am ei gwaith. Bydd y digwyddiad yn cynnwys cyflwyniadau gan nifer o academyddion o amrywiaeth o ddisgyblaethau academaidd sy'n ymchwilio i sut mae gwaith Pateman wedi ysbrydoli eu hysgolheictod.
Nod y gynhadledd yw ysgogi trafodaethau ynglŷn â sut mae beirniadaeth Pateman o'r contract cymdeithasol arferol yn parhau i fod yn bwysig ac yn berthnasol ar gyfer amrywiaeth eang o themâu, megis y contract priodi, y contract cyflogaeth, y contract puteindra, y contract benthyg croth, contract yr ymsefydlwyr, a chontractau 'newydd' nad ydynt yn ymddangos yng ngwaith Pateman ond sydd wedi eu hysbrydoli ganddo (gan gynnwys y contract lles; y contract 'cyfiawnder', ystyried mynediad at faterion cyfiawnder; ffeministiaeth a'r contract amgylcheddol; dyled fel contract rhywiol).
Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y digwyddiad maes o law. Mae wedi'i gefnogi gan Ganolfan y Gyfraith a Chymdeithas fel y digwyddiad blynyddol allweddol eleni.