Lansio Rhwydwaith Gwybodaeth am Gynhyrchiant ESRC
18 Ionawr 2018
Mae academyddion Prifysgol Caerdydd yn chwarae rhan allweddol yn Rhwydwaith Gwybodaeth am Gynhyrchiant newydd y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Bydd y rhwydwaith newydd, a lansiwyd y mis hwn, yn 'asesu cyflwr ymchwil am gynhyrchiant yn y DU; gwella ein dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n effeithio ar ein cynhyrchiant ac yn llywio sut y caiff strategaethau ac ymchwil newydd eu datblygu.'
Prifysgol Sheffield sy’n arwain y prosiect hwn sy'n cynnwys naw prifysgol i gyd. Yr Athro Andrew Henley o Ysgol Busnes Caerdydd, a'r Athro Rob Huggins, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, yw'r ddau gyd-ymchwilydd sy'n cynrychioli Prifysgol Caerdydd yn y rhwydwaith.
Bydd yr Athro Huggins yn cyd-arwain ar thema ymchwil sy'n ymwneud â thechnoleg, arloesedd a chystadleurwydd. Bydd yr Athro Henley, ochr yn ochr â'r Athro Rick Delbridge, o Ysgol Busnes Caerdydd, yn gweithio gydag arweinwyr y prosiect - yr Athrawon Philip McCann a Tim Vorley o Brifysgol Sheffield - i ddarparu dealltwriaeth fwy integredig o'r her ym maes cynhyrchiant.
Yn ogystal â darparu arweinyddiaeth a bod yn fforwm ar gyfer cydweithio, bydd y rhwydwaith yn:
- Dod â grwpiau ymchwil rhyngddisgyblaethol ynghyd yn ogystal â rhwydweithiau eraill yn y byd academaidd, llunio polisïau a busnes
- Hyrwyddo'r defnydd o ddulliau arloesol
- Datblygu cyfres o astudiaethau ar raddfa fach
- Cyflenwi (a chydweithredu ag) agendâu ymchwil sydd eisoes yn bodoli, p'un a ydynt yn cael eu hariannu gan ESRC ai peidio
- Cyfrannu at ddatblygu polisïau
- Cynnal cystadlaethau ar raddfa fach i ddyrannu arian i academyddion y tu allan i'r rhwydwaith i ymgymryd â phrosiectau perthnasol.
Dywedodd yr Athro Henley: "Rydw i wrth fy modd bod Prifysgol Caerdydd yn rhan o'r consortiwm a ddewiswyd i gyflwyno'r rhaglen ymchwil newydd hynod bwysig hon. Mae’n mynd i’r afael ag un o'r heriau anoddaf sy'n wynebu busnes yn y DU a'i goblygiadau i werth cyhoeddus ehangach.
"Un o'r rhesymau dros lwyddiant y consortiwm hwn yw ei fod yn bwriadu mabwysiadu ymagwedd leol iawn gan adlewyrchu'r ffaith y gallai gyrwyr cynhyrchiant a thwf busnes fod yn wahanol iawn yng Nghymru, ac mewn ardaloedd eraill o'r DU, i'r rheini yn Llundain de-ddwyrain Lloegr.”
Dywedodd yr Athro Huggins: "Mae'r darlun o gynhyrchiant, o ran faint o gyfoeth sy'n cael ei gynhyrchu gan fusnes, yn amrywio'n fawr o ranbarth i ranbarth. Gyda lwc bydd ein hymchwil yn rhoi dealltwriaeth bwysig i lywodraethau a rhanddeiliaid polisi allweddol pam y gallai hyn fod yn wir, yn ogystal â rhoi gwybod iddynt lle y dylent fod yn canolbwyntio eu hadnoddau, er mwyn iddynt allu helpu busnesau i gystadlu ar y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.
"Drwy ddadansoddi rhanbarthau unigol fel Cymru, byddwn yn ymchwilio i strategaethau a fydd yn sicrhau bod economi'r DU yn ffynnu am genedlaethau i ddod."