Tarddiad eliffantod Borneo
17 Ionawr 2018
Mae ymchwil gydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd ac ymchwilwyr ar draws y byd wedi taflu goleuni ar darddiad eliffantod Borneo.
Nid oeddem yn gwybod sut y daeth yr eliffantod hyn sydd o dan fygythiad i fyw yn Borneo, ond mae astudiaeth ddiweddar wedi taflu goleuni ar ran o’r hanes. Yn ol yr astudiaeth, gallai eliffantod fod wedi croesi rhwng Ynysoedd Sunda yn Ne-ddwyrain Asia yn ystod llanw isel.
Isrywogaeth o Eliffantod Asiaidd yw Eliffantod Borneo, a dim ond mewn rhanbarth fach o Borneo y maent yn bodoli. Tan yn ddiweddar, roedd dwy ddamcaniaeth sy’n mynd yn groes i’w gilydd ynghylch tarddiad yr eliffantod hyn.
Dywedodd Dr Benoit Goossens o Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd: "Credwyd bod eliffantod Borneo naill ai wedi cael eu cyflwyno’n ddiweddar gan bobl tua 300 mlynedd yn ôl, neu gallent fod wedi ymwahanu o eliffantod Asiaidd amser maith yn ôl.
"Mae cofnodion hanesyddol yn dangos bod Swltaniaid cyfagos wedi cynnig eliffantod fel anrhegion i Swltan Borneo yn yr 17eg ganrif, ac felly gallai’r eliffantod presennol fod yn eliffantod anfrodorol sydd wedi mynd yn wyllt.
"Ceir ymchwil enetig hefyd sy'n dangos bod eliffantod Borneo yn wahanol iawn i eliffantod Asiaidd eraill, gan awgrymu eu bod wedi ymwahanu’n hynafol, o bosibl tua 300,000 o flynyddoedd yn ôl.
Fodd bynnag, nid oes ffosiliau eliffant wedi’u darganfod yn Borneo i ategu’r ddamcaniaeth hon.
"Felly, mae tystiolaeth ar gyfer y ddwy ddamcaniaeth hyn.
I daflu golau ar darddiad yr isrywogaeth hyn o eliffant, daethom ynghyd ag ymchwilwyr eraill o bob cwr o'r byd, i ddarganfod sut y cyrhaeddodd yr eliffantod hyn Borneo.”
Defnyddiodd tîm ymchwil, dan arweiniad Sefydliad Gulbenkian de Ciência, Prifysgol Paul Sabatier, Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Phrifysgol Caerdydd, ddulliau dadansoddi data genetig a modelu cyfrifiadurol i astudio hanes yr anifeiliaid hyn.
Dywedodd Lounès Chikhi, o Instituto Gulbenkian de Ciência: "Fe wnaethom greu modelau cyfrifiadurol o’r gwahanol sefyllfaoedd a allai fod wedi digwydd.
Yna, aethom ati i gymharu canlyniadau'r modelau hyn gyda'r data genetig presennol, a defnyddiwyd technegau ystadegol i nodi'r senario oedd yn cynnig yr esbiniad gorau o amrywiaeth genetig presennol yr eliffantod sy’n byw yn Borneo.”
Dywedodd Rita Sharma, o Instituto Gulbenkian de Ciência: "Mae ein canlyniadau'n awgrymu mai cytrefiad naturiol o Borneo tua 11,400 i 18,300 o flynyddoedd yn ôl yw’r senario mwyaf tebygol.
"Mae'r cyfnod hwn yn cyfateb i amser pan oedd lefelau'r môr yn isel iawn a gallai eliffantod ymfudo rhwng Ynysoedd Sunda, ynysfor yn Ne-Ddwyrain Asia sy’n cynnwys Borneo.
"Ni allwn ddiystyru senarios mwy cymhleth, ond mae’n bur annhebygol mai cael eu cyflwyno gan bobl neu gyrhaeddiad naturiol blynyddoedd maith yn ôl a ddigwyddodd yn yr achos yma.”
Gyda llai na 2000 ohonynt yn byw yn wyllt, mae dyfodol eliffantod Borneo yn ansicr, gan eu bod yn wynebu heriau cynyddol o amgylchedd sy’n gynyddol ranedig a bygythiadau gan bobl.
"Bydd deall tarddiad yr eliffantod hyn yn ddefnyddiol er mwyn datblygu strategaeth gadwraeth hirdymor, yn enwedig ar adeg pan ydym ni, Adran Bywyd Gwyllt Sabah, a phartneriaid yn drafftio Cynllun Gweithredu'r Wladwriaeth 10 mlynedd newydd ar gyfer eliffantod Borneo.
"O ganlyniad i’r achosion diweddar o eliffantod yn cael eu lladd ar gyfer masnach ifori ac yn ystod gwrthdaro, mae'n rhaid i Sabahans sylweddoli mai eu treftadaeth naturiol sy'n cael ei dargedu.
"Mae angen iddynt frwydro dros eu bywyd gwyllt a chondemnio'r rhai sy'n lladd y creaduriaid godidog hyn.
Dylem ymfalchïo yn ein bywyd gwyllt, mae eliffantod yn rhan o etifeddiaeth Sabah ac ni allwn fforddio colli mwy o anifeiliaid," ychwanegodd Benoit Goossens.
Cynhaliwyd y gwaith hwn yn Instituto Gulbenkian de Ciência mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Canolfan Maes Danau Girand, Adran Bywyd Gwyllt Sabah, Prifysgol Copenhagen, Prifysgol Caerlŷr, a Phrifysgol Bryste.