Ateb y materion cyfoes o bwys yn effeithiol: Llunio arferion gorau ar gyfer Cydweithio rhwng y Gwyddorau a'r Dyniaethau
15 Ionawr 2018
Mae arbenigwyr ar draws y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol yn y Brifysgol yn cydweithio er mwyn nodi arferion gorau i helpu sefydliadau'r llywodraeth a thrydydd sector i feddwl mewn ffyrdd arloesol o gydweithio rhyngddisgyblaethol.
Bydd prosiect newydd y Brifysgol Llunio arferion gorau ym meysydd y Gwyddorau, y Gwyddorau Cymdeithasol a’r Dyniaethau yn archwilio sut maent yn cydweithio ar draws disgyblaethau yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau.
Mae'r prosiect saith mis, a wnaed yn bosibl gan gynllun grant Cyflymu Effaith ESRC, yn adeiladu ar y gwaith a arloeswyd yng Nghaerdydd ar y Gwyddorau a’r Dyniaethau.
Mae'r prosiect yn edrych ar ddulliau ac arferion cydweithio rhwng y dyniaethau, y gwyddorau a'r gwyddorau cymdeithasol ledled y DU i gynhyrchu cyfres o argymhellion arfer gorau i lywio gwaith ymarferwyr, cyrff llywodraeth a sefydliadau'r trydydd sector yn y dyfodol. Bydd y gwersi a ddysgir o'r prosiect yn cael eu rhannu gyda rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Swyddfa Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Rhaglen Sêr Cymru, Cancer Research UK, a HEFCW. Y nod yw newid polisïau ymgysylltiad traws-ddisgyblaethol sy'n deillio o sefydliadau’r trydydd sector a’r llywodraeth fel ei gilydd.
Dywedodd Martin Willis, Athro Llenyddiaeth Saesneg yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth: "Mae llawer o brosiectau yn ceisio cynhyrchu ymchwil newydd a phwysig trwy ddod â'r dyniaethau, y gwyddorau a'r gwyddorau cymdeithasol ynghyd. Serch hynny, anaml iawn maent yn rhannu eu profiadau o wneud hynny neu'n myfyrio ar y dulliau a ddefnyddir i sicrhau eu bod yn cydweithio’n effeithiol.
Yn ôl pob golwg, os ydym am gael y cyfle gorau i gael atebion i'r heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, mae'n hollbwysig ein bod yn nodi'r arferion gorau, eu harchwilio a'u rhannu ag eraill.
Dywedodd yr Athro Hanes Keir Waddington o'r Ysgol Hanes, Archeoleg a Chrefydd:
"Mae'r prosiect cydweithredol cyffrous hwn yn adeiladu ar y gwaith yr ydym yn ei wneud yng Nghaerdydd i ddatblygu'r Gwyddorau a’r Dyniaethau a sut y gallwn ailystyried sut rydym yn gweithio ar draws a rhwng disgyblaethau.
Gyda lwc, cawn well ddealltwriaeth trwy’r prosiect hwn o beth yw hanfodion cydweithio rhwng y dyniaethau, y gwyddorau a’r gwyddorau cymdeithasol. Hefyd hoffwn weld sut y gallwn ddefnyddio a rhannu’r wybodaeth am sut mae sefydliadau'r llywodraeth a'r trydydd sector yn deall ac yn ymdrin â phrosiectau cydweithredol yn y dyniaethau a'r gwyddorau."
Meddai Dr Des Fitzgerald o'r Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol:
"Dyma gyfle cyffrous i weithio ar draws y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol yn ogystal ag i ddefnyddio dulliau'r gwyddorau cymdeithasol fel offeryn i ddangos sut y gall ymarferwyr ac ysgolheigion o ardaloedd gwahanol iawn ddysgu cydweithio'n well."
Mae prosiect trawsddisgyblaethol cydweithredol, y Gwyddorau a’r Dyniaethau yn ymgais uchelgeisiol i ystyried ac ailystyried y cysylltiadau a'r ffiniau rhwng y dyniaethau a'r gwyddorau.
Yn y bôn, mae Gwyddorau a’r Dyniaethau yn amlygu'r angen damcaniaethol, gwleidyddol ac ymarferol o gael sawl ymagwedd ym maes dyniaethau. Gyda chymorth cyllid gan Brifysgol Caerdydd a Chronfa Cymorth Strategol Sefydliadol Ymddiriedolaeth Wellcome, mae'r Gwyddorau Dyniaethau yn cynnig ffyrdd newydd o weithio i roi mwy o hwb i ymchwilio ac ymgysylltu trwy osod y gwyddorau a'r dyniaethau yn agos at ei gilydd.