Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn lansio strategaeth newydd uchelgeisiol

10 Ionawr 2018

Way Forward 2018-23

Mae Prifysgol Caerdydd wedi lansio ei strategaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Ei gweledigaeth yw ennill ei phlwyf yn un o 100 o brifysgolion gorau’r byd ac ymrwymo i wella iechyd, cyfoeth a lles pobl Cymru.

Mae Y Ffordd Ymlaen 2018-2023 yn gynllun uchelgeisiol sy’n amlinellu’r cyfeiriad y bydd y Brifysgol yn teithio iddo dros y pum mlynedd nesaf.

Mae'r strategaeth yn cynnwys pwyslais newydd ar genhadaeth ddinesig y Brifysgol, a’i nod yw weithio gyda cholegau, partneriaid addysgol a phob ysgol yng Nghymru er mwyn gwella cyrhaeddiad addysgol y genedl.

https://youtu.be/ZxUXQx4A3-k

Mae’r Brifysgol eisoes wedi gwneud gwaith da yn y maes hwn. Drwy ei Fframwaith ar gyfer Ymgysylltu ag Ysgolion, gweithiodd y brifysgol gyda 763 athrawon a 3,600 o blant ysgol ar 177 o brosiectau gwahanol a gynlluniwyd i hyrwyddo ffyrdd newydd o weithio ar lefel ysgol gynradd yn ogystal ag uwchradd, ac i gynyddu cymhelliant ymhlith pobl ifanc.

Bydd y strategaeth newydd yn adeiladu ar y llwyddiant hwn ac yn golygu bydd y Brifysgol yn gweithio mewn meysydd eraill yn rhan o'i chenhadaeth ddinesig. Mae’r rhain yn cynnwys hyrwyddo a dathlu'r Gymraeg, gwella deilliannau iechyd y cyhoedd, a helpu i greu 1,000 o swyddi gwerth uchel yn economi Cymru.

Meddai’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: “Rydym yn falch o fod yn brifysgol Gymreig a rhaid i ni ddangos pa mor berthnasol yr ydym i gymunedau a phobl Cymru nawr yn fwy nag erioed, yn yr hinsawdd sydd ohoni yn dilyn Brexit.

“Mae ein strategaeth newydd yn uchelgeisiol, yn feiddgar ac yn ymateb i’r amgylchedd newydd hwn. Byddwn yn defnyddio ein meysydd arbenigedd – yn enwedig addysg ac ymchwil – er budd cymunedau o gwmpas Caerdydd, Cymru a thu hwnt, gan wella iechyd, cyfoeth a lles.

“Drwy ein hymrwymiad i'n cenhadaeth ddinesig, byddwn yn cefnogi athrawon ac yn ymgysylltu â'r rheini sydd wedi'u gwahanu oddi wrth addysg neu gyflogaeth a gweithio gyda cholegau addysg bellach a holl ysgolion Cymru i gefnogi gwelliannau mewn cyrhaeddiad.

Ochr yn ochr â’i chenhadaeth ddinesig, bydd y Brifysgol yn canolbwyntio ar feysydd ymchwil, rhyngwladol, addysg a myfyrwyr ac arloesedd.

Dyma bedair uchelgais arall erbyn 2023:

  • Gwella safle’r Brifysgol yn un o 100 o Brifysgolion gorau’r byd, ac ymhlith yr 20 orau yn y DU
  • Lleoliadau gwaith, dros amser, ar gyfer pob un o’n myfyrwyr israddedig yn rhan o'u hastudiaethau
  • Rhyngwladoli’r Brifysgol ymhellach, ehangu’r gymuned o staff a myfyrwyr rhyngwladol a sicrhau bod mwy o'n myfyrwyr yn treulio amser dramor yn ystod eu hastudiaethau
  • Pwyslais ar yr amgylchedd, gan gael gwared yn raddol ar ddefnydd cymuned y Brifysgol o blastigion untro.

Ychwanegodd yr Athro Riordan: "Bydd Y Ffordd Ymlaen 2018-2023 yn sicrhau bod y Brifysgol yn parhau i ddarparu ymchwil sy'n arwain y byd, gan ddarparu profiad rhagorol o astudio, bywyd a gwaith i fyfyrwyr a staff, ac adeiladu ar brosiectau ymgysylltu blaenllaw’r Brifysgol."

Mae Y Ffordd Ymlaen 2023-2018 yn dilyn y strategaeth flaenorol, Y Ffordd Ymlaen ar gyfer 2012-2017, wnaeth sicrhau bod y Brifysgol gyda’r pum prifysgol orau yn y DU yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil yn 2014, a sicrhau lle gyda’r 100 o brifysgolion gorau’r byd yn Nhabl Cynghrair o Brifysgolion y Byd – yr unig brifysgol yng Nghymru i wneud hynny a dim ond un o naw yn y DU i fod ymhlith y 100 uchaf.

Rhannu’r stori hon