Interniaid Newydd y Brifysgol yn rhan o brosiect byd-eang
9 Ionawr 2018
Mae Prifysgol Caerdydd wedi rhoi interniaethau i 11 unigolyn ifanc arall sydd ag anableddau yn rhan o brosiect rhyngwladol mawr.
Mae pobl ifanc yn ennill sgiliau cyflogaeth gwerthfawr yn y Brifysgol yn rhan o Brosiect SEARCH, menter fyd-eang a ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau.
Maent wedi’u lleoli yn Ysgolion ac adrannau’r Brifysgol, megis Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr, Cyfathrebu a Marchnata, Adnoddau Dynol ac Ystadau, ar draws 30 wythnos yn ystod 2017/18.
Mae’r 11 ohonynt yn fyfyrwyr Coleg Caerdydd a'r Fro (CCaF) sydd yn cael eu cefnogi gan CCaF ac ELITE Supported Employment Agency (ELITE SEA).
Ariennir y cynllun yng Nghymru gan brosiect Ymgysylltu Er Mwyn Newid ehangach sy'n gweithio gyda chyflogwyr i helpu pobl ifanc ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth i ddatblygu sgiliau cyflogaeth drwy leoliadau gwaith a chael cefnogaeth i gael gwaith cyflogedig.
Mae Luke Evans, 21, o Gaerdydd, yn dysgu am weinyddiaeth gyda thîm Cyfathrebu a Marchnata yn y Brifysgol.
Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd â’r gwahanol bethau rwyf yn eu gwneud ac mae bod mewn amgylchedd swyddfa wedi apelio ataf erioed. Rwyf wedi dysgu sut i ddefnyddio Excel, sut i wneud taenlenni, ac rwy’n gofalu am y post yn ogystal. Teimlaf y gallaf wneud fy ngwaith yn iawn ac rwy’n cyd-dynnu â phawb.”
Mae Jade Smith, 20, hefyd o Gaerdydd, yn gweithio fel cynorthwy-ydd domestig yn Neuadd y Brifysgol ac yn dilyn ôl traed ei chwaer, Grace, a oedd yn rhan o Brosiect SEARCH yn 2016-17.
Dywedodd: “Rwy’n ei fwynhau! Rwy’n dysgu sgiliau newydd, yn gweld cwsmeriaid ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn hynod gyfeillgar. Roedd fy chwaer Grace ar brosiect SEARCH y llynedd, cefais wybod ganddi amdano. Dywedodd eich bod yn cael rhoi cynnig ar bethau newydd a gwneud swyddi gwahanol. Gofynnais a allwn gael fy nghynnwys arno.
Mae’r myfyrwyr, sydd â chyflyrau megis anableddau dysgu a/neu anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, yn dilyn ôl traed 11 o bobl ifanc a gwblhaodd interniaethau llwyddiannus yn y Brifysgol yn 2016-17.
Aeth llawer o'r yr interniaid ymlaen i sicrhau cyflogaeth â chyflog, gan gynnwys sawl un sy’n gweithio’n y Brifysgol.
Yn ôl Shane Halton, 19, wnaeth ddod o hyd i waith yn Ysgol Cemeg y Brifysgol: “Fe wnaeth Prosiect SEARCH fy helpu i gael swydd gyda Phrifysgol Caerdydd a chefais hefyd brofiad o’r hyn i’w ddisgwyl mewn swydd. Rwy’n gweithio yn yr Ysgol Cemeg fel cynorthwy-ydd technegol, yn gweithio yn y storfeydd Cemeg a’n gwneud swyddi eraill pan fo galw. Rwy’n mwynhau’r swydd hon yn fawr a mwynheais y cyfle’n ogystal i fod yn rhan o Brosiect SEARCH.”
Daeth Andrew Horley, 23, o hyd i waith yn siop fwyd Simply Fresh ar gampws CCaF.
Dywedodd: “Rwyf wedi ei fwynhau’n arw, rwy’n dwlu ar fy ngwaith. Rwy'n hoffi gweithio ar y til a gwasanaethu cwsmeriaid, a gwneud stoc. Cefais help gan Brosiect SEARCH i wneud cais am swydd, a chynigiodd brofiad i mi.”
Prifysgol Caerdydd oedd y cyflogwr cyntaf yng Nghymru, a dim ond y trydydd prifysgol yn y DU, i gymryd rhan ym Mhrosiect SEARH, sy'n ceisio gwella cyflogadwyedd ac addysg ar gyfer unigolion ag anableddau.
Cafodd Anabledd Dysgu Cymru £10m gan y Gronfa Loteri Fawr - i arwain consortiwm o sefydliadau i Ymgysylltu Er Mwyn Newid. Cafodd grant Ar y Blaen 2 ei ddatblygu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru er mwyn bodloni blaenoriaethau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc.