Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2018
3 Ionawr 2018
Mae Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd wedi cael ei chydnabod am ei chyfraniad eithriadol i beirianneg yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 2018.
Derbyniodd yr Athro Karen Holford CBE am wasanaethau i beirianneg ac am annog menywod ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg.
Dechreuodd yr Athro Holford ei gyrfa yn Rolls-Royce lle cyfrannodd at amrywiaeth o brosiectau technegol, gan gynnwys gwaith ar injans Adour a Pegasus. Yn AB Electronic Products, bu’n gyfrifol am ddatblygu cynhyrchion modurol i gwmnïau megis BMW, Jaguar a Rover, a chafodd ei dyrchafu i rôl uwch-beiriannydd.
Ymunodd â'r Ysgol Peirianneg yng Nghaerdydd fel darlithydd ym 1990, a daeth yn gyfarwyddwr yn 2010. Yn 2012, cafodd ei phenodi’n Ddirprwy Is-Ganghellor cyntaf y Brifysgol ac yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, cyn ymgymryd â rôl Dirprwy Is-Ganghellor ym mis Ebrill 2017.
Ers symud i'r byd academaidd 27 mlynedd yn ôl, mae’r Athro Holford wedi helpu i ddatblygu enw da rhyngwladol a blaenllaw yr ymchwil am allyriadau acwstig a gynhelir ym Mhrifysgol Caerdydd, yn enwedig y gwaith arbrofol a wneir yn un o gyfleusterau gorau Ewrop. Yn sgîl yr ymchwil hon, mae technoleg wedi'i datblygu sy'n gallu monitro diogelwch pontydd a strwythurau eraill yn llawer gwell. Erbyn hyn, mae'r tîm yn defnyddio'r un technegau er mwyn canfod diffygion mewn awyrennau, gan gynnig y posibilrwydd o chwyldroi dyluniadau a chreu awyrennau ysgafnach.
Yn ogystal â'i gwaith ymchwil, mae'r Athro Holford yn frwdfrydig dros hyrwyddo peirianneg, ac mae'n aelod o sawl pwyllgor a sefydliad sy'n mynd ati i annog pobl ifanc i ystyried gyrfa yn y maes.
Yn 2006, dyfarnwyd gwobr Cymraes y Flwyddyn mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg i'r Athro Holford, ac yn 2007, dyfarnwyd Gwobr Rhagoriaeth WISE (Menywod mewn Gwyddoniaeth a Pheirianneg) iddi am ei hymrwymiad hirdymor i gefnogi merched a menywod ifanc ym maes gwyddoniaeth a pheirianneg. Yn 2015, daeth yn Gymrawd yr Academi Beirianneg Frenhinol; mae'r Gymrodoriaeth trwy wahoddiad yn unig ac mae'n cynrychioli ymchwilwyr, arloeswyr, entrepreneuriaid, ac arweinwyr busnes a diwydiant gorau’r wlad ym maes peirianneg.
Yn 2016 cafodd ei henwi ymhlith yr hanner cant o beirianwyr benywaidd mwyaf dylanwadol y DU.
Mae’n un o gyd-awduron yr adroddiad, Menywod Talentog ar gyfer Cymru Lwyddiannus, a nododd pa mor bwysig yw cael mwy o fenywod yn dilyn gyrfaoedd STEM, a derbyniodd Llywodraeth Cymru pob un o argymhellion yr adroddiad ym mis Ionawr 2017.
Dywedodd yr Athro Holford: “Rwyf dal mewn sioc, ond wrth fy modd gyda’r newyddion fy mod yn mynd i dderbyn CBE am wasanaethau i beirianneg ac am fy ngwaith yn annog pobl ifanc, yn enwedig merched, i ystyried astudio pynciau STEM. Rwy'n falch o fod yn byw ac yn gweithio yng Nghymru, sydd â thraddodiad gwych o ragoriaeth beirianyddol...”
Mae’r Athro Holford yn un o sawl unigolyn o gymuned y Brifysgol sydd wedi ennill cydnabyddiaeth.
Cafodd cyn-gadeirydd Cyngor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Syr Keith Peters, ei urddo’n Farchog y Groes Fawr (GBE). Mae ef eisoes wedi ei urddo'n Farchog. Mae’n un o’r Cymry dethol i dderbyn anrhydedd mor fawreddog.
Dywedodd Syr Keith: “Rwy'n teimlo ei bod yn fraint fawr bod fy ngyrfa mewn meddygaeth wedi cael ei gydnabod fel hyn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gydnabod y momentwm a gefais o'm cyfnod fel myfyriwr a meddyg iau yng Nghaerdydd, lle'r oedd staff meddygol ysbrydoledig - athrawon, ymchwilwyr ac ymarferwyr - a wnaeth fy mharatoi ar gyfer gyrfa mewn meddygaeth academaidd...”
Syr Keith Peters yw un o academyddion clinigol mwyaf dylanwadol y DU sydd wedi cael effaith barhaol ar feddygaeth a gwyddoniaeth mewn nifer o ffyrdd.
Yn fwyaf diweddar, chwaraeodd ran flaenllaw wrth greu Sefydliad Francis Crick. Cyn hynny, roedd yn ffigwr hollbwysig yn Ysgol Feddygol Frenhinol Ôl-raddedig, Hammersmith, lle bu’n gwneud gwaith ar fecanweithiau imiwnedd mewn clefyd yr arennau a newidiodd arferion clinigol.
Yng Nghaergrawnt trawsnewidiodd yr Ysgol Glinigol ac arweiniodd at ddatblygu'r hyn sydd bellach yn Gampws Biomeddygol Caergrawnt. Mae'n Gymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol, yn arfer bod yn Llywydd yr Academi Gwyddorau Meddygol, ac o 2005-2016 yn Uwch Ymgynghorydd i GlaxoSmithKline.
Mae’r Athro Philip Routledge OBE, Athro Emeritws Ffarmacoleg Glinigol, sy'n derbyn CBE am wasanaethau i feddyginiaeth, ymhlith yr unigolion eraill o gymuned y Brifysgol i gael eu hanrhydeddu.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Ar ran y Brifysgol gyfan, hoffwn longyfarch yr unigolion sydd wedi derbyn cydnabyddiaeth frenhinol.
“Rwy'n falch iawn bod eu cyfraniadau arwyddocaol wedi'u cydnabod fel hyn. Rydym yn falch iawn o weld eu gwaith a'u hymroddiad yn cael eu hanrhydeddu.”