Gyrru ymlaen
4 Ionawr 2018
Caerdydd sydd wrth y llyw ym maes ymchwil Diwydiant 4.0 ar ôl i dîm o Ysgol Busnes Caerdydd ennill gwobr am y papur gorau yng Nghynhadledd Cymdeithas Cynhyrchwyr Cydrannau Moduron (ACMA) yn India.
Nicole Ayiomamitou, Dr Maneesh Kumar, Andrew Lahy, yr Athro Aris Syntetos, Mike Wilson, a Ting Ji - tîm o raddedigion ac ymchwilwyr o Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg Panalpina ym Mhrifysgol Caerdydd, oedd awduron y papur 'Smart Inventory forecasting application'.
Dywedodd Andrew Lahy, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg Panalpina a Phennaeth Byd-eang Strategaeth Logisteg ac Arloesedd, Panalpina: “Mae ennill y wobr am y papur gorau yn llwyddiant mawr i Panalpina a Phrifysgol Caerdydd...”
Dr Michael Ryan a Dr Daniel Eyers, sydd hefyd o Ganolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg Panalpina, oedd yn ail yn yr un categori am eu papur, ‘Digital Manufacturing for Spare Parts: Scenarios for the Automotive Supply Chain’.
Mae’r gynhadledd ddeuddydd a gynhaliwyd yn Pune, India, yn dod ag arbenigedd byd-eang ym maes Diwydiant 4.0 ynghyd, ac fe ddenodd dros 700 o gynrychiolwyr o’r diwydiant, gan gynnwys Tata Consultancy Services (TCS), SAP, Bosch, Panasonic, Microsoft, PWC a TATA Motors.
ACMA sy’n cynrychioli buddiannau Diwydiant Cydrannau Modurol India. Mae’r dros 780 o wneuthurwyr sy’n aelodau ohoni i’w cyfrif am dros 85 y cant o drosiant y diwydiant cydrannau ceir yn y sector trefnus.