Cyrsiau Caerdydd yn cael eu hystyried y gorau yn y DU
27 Mai 2015
Mae cyrsiau deintyddiaeth a newyddiaduraeth, cyhoeddi a chysylltiadau cyhoeddus Prifysgol Caerdydd wedi cael eu hystyried y gorau yn y DU yn nhablau cynghrair prifysgolion diweddaraf the Guardian
Roedd pynciau eraill ym Mhrifysgol Caerdydd a gafodd sgôr dda yn cynnwys pensaernïaeth, a symudodd i'r ail safle, adeiladu a chynllunio gwlad a thref (trydydd), a fferylliaeth a ffarmacoleg (trydydd).
Dangosodd arweiniad 2016 fod deintyddiaeth wedi saethu i'r brig o'r 11eg safle y llynedd, ac mae newyddiaduraeth, cyhoeddi a chysylltiadau cyhoeddus wedi codi o safle rhif pedwar.
Rhoddwyd sgôr o 100 allan o 100 i'r ddau gwrs yn yr arweiniad.
Roedd y proffesiynau iechyd; astudiaethau'r cyfryngau a ffilm; peirianneg: mecanyddol; busnes, rheoli a marchnata; daearyddiaeth ac astudiaethau amgylcheddol; hanes; a seicoleg ymhlith pynciau eraill ym Mhrifysgol Caerdydd yn yr 20% gorau.
Yn y traean uchaf hefyd roedd meddygaeth; peirianneg: electronig a thrydanol; a ffiseg.
Cyrhaeddodd y Brifysgol safle rhif 27 yn gyffredinol, o'i gymharu â safle rhif 26 yn nhabl 2015.
Roedd arweiniad the Guardian yn dangos bod Prifysgol Caerdydd yn gwneud yn dda o ran rhagolygon gyrfa (12fed), gwariant fesul myfyriwr (19eg) a sgôr mynediad (23ain).
Dywedodd the Guardian fod y Brifysgol "mor hyderus a blaengar â'r ddinas y mae wedi ei lleoli ynddi, ac mae ganddi enw rhagorol am ansawdd addysgu ac ymchwil".
"Mae dros 30,000 o fyfyrwyr yno, gan gynnwys mwy na 6,600 o dros 100 o wledydd y tu allan i'r DU, sy'n helpu i greu cymuned fywiog, gosmopolitan," ychwanegodd the Guardian.
"Mae cofnod cyflogaeth graddedigion yn gryf. Mae tua 95% o raddedigion Prifysgol Caerdydd naill ai mewn cyflogaeth neu'n ymgymryd â hyfforddiant proffesiynol/astudiaeth ôl-raddedig yn fuan ar ôl graddio."
Unwaith eto, roedd arweiniad the Guardian yn cydnabod mai Prifysgol Caerdydd yw'r sefydliad â'r sgôr gyffredinol uchaf yng Nghymru.
Dywedodd y Rhag Is-Ganghellor, Yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae'n braf iawn gweld rhagoriaeth ein cyrsiau'n cael ei chydnabod yn y tabl cynghrair. Mae sawl un ohonynt yn cael eu hystyried y gorau, neu ymhlith y gorau, yn y DU.
"Mae ein sgôr gyffredinol yn sefydlog, yn dilyn codiadau diweddar yn y prif dablau cynghrair ar gyfer prifysgolion, fel Arweiniad Prifysgolion The Times a Sunday Times a Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd.
"Fodd bynnag, rydym yn benderfynol o wneud yn well fyth, ac wedi ymrwymo i sicrhau lle ymhlith 20 prifysgol orau'r DU yn gyson."