Penblethau gofal cleifion
26 Mai 2015
Myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd ar draws y DU yn nodi lefelau uchel o gam-drin a thorri polisïau diogelwch ac urddas cleifion
Yn ôl arolwg o bron i 4000 o fyfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd ledled y Deyrnas Unedig, mae dros hanner y rheini a gwestiynwyd wedi dweud eu bod wedi gweld clinigwyr yn torri polisïau urddas neu ddiogelwch cleifion y llynedd.
Mae nifer tebyg hefyd wedi dweud eu bod wedi gweld cydweithwyr yn cael eu cam-drin yn y gweithle. Roedd dros 75% yn dweud eu bod wedi cael eu cam-drin eu hunain.
Cynhaliwyd yr arolwg gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Dundee a Phrifysgol Caerdydd, a chanfu hefyd bod y digwyddiadau hyn yn peri trallod i fyfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd, yn ystod y digwyddiad ei hun, ac ar ôl. Roedd menywod yn profi mwy o drallod na dynion. Er bod myfyrwyr meddygaeth yn dweud eu bod yn profi llai o drallod wrth brofi digwyddiadau penodol fwy nag unwaith (hanfodol ar gyfer dysgu), yn gyffredinol, roedd myfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd yn dweud eu bod yn profi mwy o drallod wrth brofi rhywbeth dro ar ôl tro.
Mae canlyniadau'r arolwg wedi cael eu cyhoeddi ar-lein yn BMJ Open.
"Mae'r canfyddiadau hyn sy'n ymwneud â chyfyng-gyngor o ran gofal cleifion yn cyd-fynd ag ymholiadau diweddar gan y llywodraeth i achosion o dorri polisïau diogelwch ac urddas cleifion yn y DU," yn ôl Dr Lynn Monrouxe, Cyfarwyddwr Ymchwil Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, a chydawdur y gwaith ymchwil.
Dywedodd yr Athro Charlotte Rees, Athro Ymchwil Addysgol a Chyfarwyddwr y Ganolfan Addysg Feddygol ym Mhrifysgol Dundee, "Dyma'r darn diweddaraf o waith ymchwil gan raglen deng mlynedd sy'n archwilio profiadau myfyrwyr meddygaeth, nyrsio, deintyddiaeth, fferylliaeth a ffisiotherapi o ddiffygion moeseg a phroffesiynoldeb.
"Mae'r canfyddiadau wedi bod yn gyson, ac maent yn dangos y pwysau aruthrol sy'n aml yn cael ei roi ar fyfyrwyr. Yn fwy cadarnhaol, mae'r canfyddiadau wedi arwain at gamau gweithredu gan rai darparwyr addysgol."
Yn yr arolwg diweddaraf, fe wnaeth yr ymchwilwyr gyflwyno dau holiadur er mwyn deall yr effaith y mae cyfyng-gyngor o ran proffesiynoldeb yn ei chael ar y myfyrwyr, a'r trallod moesol mae hyn yn ei beri iddynt.
Fe wnaeth cyfanswm o 3796 o fyfyrwyr ledled Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru ymateb i'r ddau holiadur. Er i oddeutu 10% ddweud nad oeddent wedi profi unrhyw gyfyng-gyngor o ran proffesiynoldeb dros y flwyddyn flaenorol, dywedodd y gweddill eu bod wedi gweld neu gymryd rhan mewn achosion o dorri polisïau diogelwch neu urddas cleifion. Roedd y rhan fwyaf hefyd yn dweud eu bod wedi dioddef camdriniaeth yn y gweithle, neu wedi gweld gweithwyr gofal iechyd eraill yn cael eu cam-drin.
Dywedodd dros hanner y myfyrwyr meddygaeth a oedd yn rhan o'r arolwg eu bod wedi cynnal archwiliad neu driniaeth ar glaf heb ganiatâd dilys, yn dilyn cais gan arweinydd clinigol at ddibenion dysgu. Roedd dros 25 y cant yn dweud eu bod wedi annog hyn eu hunain.
"Mae'r canfyddiadau o ran camdriniaeth yn y gweithle'n cyd-fynd â gwaith ymchwil blaenorol, sy'n awgrymu bod myfyrwyr yn cael eu cam-drin, neu'n gweld pobl eraill yn cael eu cam-drin, cyn gynted ag y byddant yn cyrraedd yr amgylchedd clinigol," meddai'r Athro Rees.
Dywedodd Dr Monrouxe, "Gwnaethom ddadansoddi ein data hefyd i weld a oedd cryfder trallod moesol y myfyrwyr yn gysylltiedig â rhywedd y myfyrwyr, a pha mor aml roeddent yn profi'r cyfyng-gyngor. Yn gyson, roedd menywod yn fwy tebygol na dynion o ddweud eu bod mewn ychydig o drallod, mewn trallod sylweddol a/neu mewn trallod difrifol."
Dywedodd yr ymchwilwyr fod eu data hefyd yn dangos bod y myfyrwyr hyn yn dangos empathi drwy gydol eu hamser fel israddedigion, yn wahanol i'r meddylfryd eang bod gan fyfyrwyr meddygaeth a gofal iechyd ddiffyg empathi.