Cymryd stoc: Ysgol Busnes Caerdydd yn asesu gwerthiannau
3 Ionawr 2018
Yn ôl academyddion Prifysgol Caerdydd, gallai dulliau gwael manwerthwyr o gadw cofnodion fod yn gyfrifol am fethu cyfleoedd i werthu neu gadw gormod o stoc.
Maent yn ymuno ag astudiaeth Ewropeaidd i ymchwilio i restr o wallau wrth iddynt geisio gweld a fyddai cymryd stoc union gywir yn helpu i gynyddu gwerthiannau.
Mae Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol Busnes EM Lyon a Phrifysgol Dechnegol Darmstadt yn cydweithio ag Ymateb Effeithlon Defnyddwyr (Efficient Consumer Response – ECR), cymdeithas fasnach o fanwerthwyr a’u gweithgynhyrchwyr ym Mrwsel – mewn ymgais i ganfod y gwir.
Gyda chymorth Canolfan Panalpina ar gyfer Ymchwil Gweithgynhyrchu a Logisteg ym Mhrifysgol Caerdydd, mae’r prosiect €60,000 chwe mis o hyd, yn cael ei arwain gan yr Athro Aris Syntetos, o adran Logisteg a Rheoli Gweithrediadau Ysgol Busnes Caerdydd, ynghyd â’r Athro Yacine Rekik, EM Lyon a’r Athro Christoph Glock, TU Darmstadt.
Yn ôl yr Athro Syntetos: “Mae'r prosiect yn adeiladu ar gorff cynyddol o dystiolaeth sy’n awgrymu bod cofnodion stocrestrau manwerthwyr yn anghywir i raddau helaeth. Yn ôl ymchwil gynharach, gallai rhwng 54% a 65% o stocrestrau fod yn anghywir, ac mae cyfrifon ffisegol yn dangos bod naill ai mwy neu lai yn y storfa na'r hyn sydd wedi’i gofnodi ar y ffeiliau stoc...”
I weld pa effaith y mae gwallau yn y stocrestrau yn ei chael ar werthiannau, bydd tîm y prosiect yn cynnal dadansoddiad empirig sy'n cynnwys nifer fawr o siopau manwerthu sy'n berchen i wyth o fanwerthwyr sy’n gysylltiedig ag ECR.
Dyrennir y siopau manwerthu sy’n cymryd rhan i naill ai’r grŵp ‘prawf' neu’r grŵp ‘a reolir’, a bydd stoc yn cael ei gyfrif yn siopau’r grŵp ‘prawf’ yn ystod y prosiect.
Cyn, ac ar ôl, cyfrif stoc yn y siopau ‘prawf’, bydd tîm y prosiect yn mynd ati i gasglu data stocrestrau a gwerthiannau yn siopau’r grŵp ‘prawf’ a’r grŵp ‘a reolir’, ac yn defnyddio dulliau ystadegol i ddadansoddi’r gwahaniaeth mewn gwerthiannau yn y ddau fath o siopau.
Bydd y cyntaf mewn cyfres o weithdai gyda manwerthwyr sy'n gysylltiedig ag ECR yn cael ei gynnal ym Mharis ym mis Chwefror.