Cynllun bwyd iach ar gyfer gardd gymunedol newydd
26 Mai 2015
Mae trigolion yn creu canolbwynt ar gyfer gweithgareddau cymunedol yng nghanol Grangetown, gyda chefnogaeth un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw Prifysgol Caerdydd
Mae gardd gymunedol yn cael ei datblygu yng Ngerddi Grange i dyfu bwyd iach ac i fod yn weithgaredd llawn hwyl i bobl leol.
Mae trigolion yn gweithio gyda phrosiect Porth Cymunedol y Brifysgol, a fydd yn cynnig arian i ddatblygu'r ardd, ac i agor y pafiliwn bowlio at ddefnydd pellach y gymuned, o bosibl.
Trefnwyd diwrnod garddio cymunedol ar y safle gan Brosiect Pafiliwn Grange, gan ddenu dros 40 o drigolion.
Ymunwyd â nhw gan Julian Rees o'r ymgynghoriaeth peillio Pollen8 Cymru, a ddaeth â hadau gydag ef i ddenu gwenyn. Roedd Sam Holt o'r Ffederasiwn Ffermydd Dinesig a Gerddi Cymunedol yno hefyd. Bu'n dysgu pobl i adeiladu gwelyau blodau uchel o hen baledau a roddwyd gan Cadwch Gymru'n Daclus.
Dywedodd Elen Robert, aelod o grŵp prosiect y pafiliwn: "Mae'r lawnt fowlio yng Ngerddi Grange bob amser wedi bod yn safle pwysig lle gall pobl leol ddod at ei gilydd i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol sy'n hwyl ac yn iach.
"Roeddem am wneud yn siŵr bod y safle'n parhau i fod yn ganolbwynt i gymuned sy'n ymgasglu yng nghanol Grangetown."
Dywedodd Elen, sydd wedi bod yn rhan o brosiect gardd gymunedol Riverside yn y gorffennol, ei bod wedi gweld â'i llygaid ei hun y "manteision o weithio gyda phobl eraill yn y gymuned i dyfu bwyd iach a phlanhigion defnyddiol eraill".
"Roedd safle'r lawnt fowlio yng Ngerddi Grange yn ymddangos yn safle perffaith i geisio sefydlu rhywbeth tebyg, ac ar ôl siarad â thrigolion lleol eraill, daeth yn amlwg bod angen mwy o weithgareddau a digwyddiadau yn Grangetown a allai helpu i dynnu pobl o bob oed a diwylliant at ei gilydd," meddai.
"Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i sefydlu rhwydwaith ehangach o bobl leol, gan gynnwys ysgolion lleol, sydd â diddordeb mewn defnyddio'r safle a gofalu amdano."
Mae Porth Cymunedol yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt mewn meysydd gan gynnwys iechyd, addysg a lles.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol, a gweithio gyda Llywodraeth Cymru i helpu i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.