Hwb ariannol i'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth
26 Mai 2015
Mae Prifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â phrifysgolion partner Abertawe a Bangor, wedi cael £2,249,927 i arwain y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), sef Canolfan Ymchwil Cymru gyfan
Bydd yr arian gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cefnogi nod y ganolfan o gael effaith sylweddol ar iechyd a lles poblogaeth Cymru drwy ymchwil gymhwysol. Dyma'r tro cyntaf i waith ymchwil i iechyd y boblogaeth gael ei gydlynu yng Nghymru.
Bydd y ganolfan ymchwil yn rhoi Cymru ar lwyfan byd-eang o ran gwyddoniaeth iechyd y poblogaeth, drwy greu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisïau, gwasanaethau ac ymyriadau iechyd cyhoeddus, a gweithredu canfyddiadau ar raddfa sy'n cael effaith ar y boblogaeth gyfan.
Bydd NCPHWR yn cydlynu ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol aml-sefydliadol, amlddisgyblaethol ac aml-asiantaeth. Bydd hefyd yn cydweithio â llunwyr polisïau ac ymarferwyr, ac yn ymgysylltu â'r cyhoedd ledled Cymru. Bydd hefyd yn ehangu cysylltiadau â grwpiau ymchwil rhyngwladol blaenllaw i iechyd y boblogaeth.
Bydd y ganolfan yn adeiladu ar feysydd o ragoriaeth wyddonol barod yng Nghymru, a bydd ei themâu ymchwil craidd yn canolbwyntio ar blant a phobl ifanc a hybu a chynnal iechyd drwy fywyd gwaith hirach.
Bydd yr Athro Simon Murphy o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd, yn arwain y rhaglen ymchwil i Wella Iechyd y Cyhoedd yn NCPHWR. Meddai: "Bydd y rhaglen hon yn adeiladu ar lwyddiant Rhwydwaith Ymchwil Gwella Iechyd y Cyhoedd dros y degawd diwethaf, a bydd hefyd yn gyrru'r Rhwydwaith Ymchwil arloesol i Iechyd Ysgolion yn ei flaen. Byddwn hefyd yn gweithio ar gorff cydweithredol o waith gyda Chanolfan Ymchwil a Datblygu Gofal Cymdeithasol Plant a Sefydliad Gofal Sylfaenol ac Iechyd Cyhoeddus Prifysgol Caerdydd, yn rhan o agweddau cydweithredol ar y rhaglen."
Bydd NCPHWR yn cyfrannu at amcanion polisi Cymru, sef rhoi dechrau iach a diogel mewn bywyd i fwy o blant, lleihau anghydraddoldebau, a sicrhau safon uchel o fywyd am amser hwy. O safbwynt oedolion, bydd yn canolbwyntio ar wella lles a gweithgarwch corfforol y boblogaeth gyffredinol, ac yn cefnogi ymchwil i arthritis, asthma, anhwylderau cardiofasgwlaidd, heintiau ac anafiadau.
Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol gynt) yn sefydliad cenedlaethol, amlweddog a rhithiol a gaiff ei ariannu a'i oruchwylio gan Isadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.