Perfformiad cyntaf Nature Symphony gan Dr Arlene Sierra yn cael adolygiadau gwych
18 Rhagfyr 2017
Yn ddiweddar, perfformiwyd Nature Symphony – y cyfansoddiad diweddaraf gan Dr Arlene Sierra – am y tro cyntaf yn y byd, gan Gerddorfa Ffilharmonig y BBC.
Ludovic Morlot oedd yn cyfansoddi, a pherfformiwyd y symffoni 22 munud o hyd yn Neuadd Bridgewater ym Manceinion, a’i darlledu’n hwyrach ar Radio 3. Wedi’i gosod mewn tri symudiad, y symffoni hon yw’r modd diweddaraf y mae Dr Sierra’n mynegi ei chwilfrydedd â’r byd naturiol a’n amgylchedd sy’n newid.
Cafodd y darn ei ddathlu mewn llawer o adolygiadau. Yn ôl y Manchester Review, roedd yn ‘llawn cerddoriaeth trawiadol, gafaelgar a mesmeraidd.’ Disgrifiodd Peter Connors o Bachtrack y darn fel bod yn ‘gofiadwy am greu seiniau hyfryd’ a chafodd ganmoliaeth gan Andrew Clements o’r Guardian am ‘gynildeb trawiadol a syniadau cerddorfaol olynol’ y gwaith.
Mae’r gwaith – a gomisiynwyd gan Gerddorfa Ffilharmonig y BBC a BBC Radio 3 – mewn tri symudiad sy’n dwyn eu teitlau o leoliadau a ffenomena naturiol. Mae’r symudiad cyntaf, Mountain of Butterflies, yn cyfeirio at y lleoliad ym Mecsico lle mae oddeutu 1 biliwn o löynnod y llaethlys (monarch butterflies) yn ymgasglu wrth iddyn nhw gwblhau’r broses fudo. Ysbrydolwyd yr ail symudiad, The Black Place (ar ôl O’Keeffe) gan beintiadau o fryniau duon New Mexico gan yr artist o America, Georgia O’Keefe. Mae’r symffoni’n gorffen mewn trydydd symudiad, Bee Rebellion, sy’n awgrymu ffenomen cwymp cwch gwenyn.
Disgrifiwyd y symudiad olaf hwn gan y Guardian fel ‘cerddoriaeth o gylchdroadau a chasgliadau anrhagweladwy, gydag unawdau offerynnau chwyth gwatwarus, a’r cyfan yn cael ei dorri’n fyr gan ddiweddglo llawn offerynnau pres a tharo sy’n cynnig dim dihangfa.’
Mewn cyfweliad yn ddiweddar gyda chylchgrawn Classical Music, dywedodd Dr Sierra ‘ni allaf weld sut mae unrhyw un sy’n fyw heddiw yn methu sylweddoli ar beth sy’n digwydd ar fyrder yn y byd naturiol a’r hyn rydym ni fel bodau dynol yn ei wneud i newid pethau. Mae gennyf fachgen bach nawr, sy’n bump oed, felly rwy’n ymwybodol o ba mor wahanol yw’r amgylchedd o’r hyn ydoedd pan oeddwn innau’n blentyn. Mae’n ymdeimlad personol o frys, yn hytrach na cheisio gosod fy nhaith gerdded drwy’r coed mewn darn o gerddoriaeth.’
Mae Dr Sierra bellach yn gweithio ar ddarn piano ar gyfer yr unawdydd o Efrog Newydd, Marilyn Nonken, ac yn cwblhau ei chyfres o sgorau siambr newydd i ffilmiau mud Maya Deren o'r 1940au.
Mae Dr Sierra yn Ddarllenydd mewn Cyfansoddi yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Mae hefyd yn gyfansoddwr cerddoriaeth siambr, cerddorfaol a lleisiol yn ogystal ag opera, cerddoriaeth ar gyfer dawns, a cherddoriaeth ar gyfer ffilmiau.