Caerdydd yn penodi arbenigwr lled-ddargludyddion cyfansawdd blaenllaw o UDA
26 Mai 2015
Mae un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd ar led-ddargludyddion cyfansawdd (compound semiconductors) wedi cael ei benodi i arwain labordy ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda'r gallu i droi'r ddinas yn ganolfan fyd-eang ar gyfer ecsploetio ac ymchwilio i led-ddargludyddion cyfansawdd
Mae'r Athro Diana Huffaker, o Brifysgol California, Los Angeles (UCLA), wedi'i phenodi'n Gadeirydd Deunyddiau ac Uwch-beirianneg drwy raglen £50m Llywodraeth Cymru, Sêr Cymru.
Mae technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd yn gyfrifol am eitemau mwyaf poblogaidd y byd, gan gynnwys ffonau clyfar a llechi, ac mae'n ysgogi newid ar draws sectorau, gan gynnwys gofal iechyd, biodechnoleg a chyfathrebu torfol.
Bydd yr Athro Huffaker yn sefydlu labordy ymchwil o'r radd flaenaf a fydd yn canolbwyntio ar ddatblygu dyfeisiau a gwyddoniaeth sylfaenol. Bydd yn adeiladu ar gryfderau parod Prifysgol Caerdydd wrth ehangu meysydd optoelectroneg, deunyddiau a dyfeisiau lled-ddargludo.
Bydd y labordy'n ymchwilio i ddulliau tyfu newydd a chyfuniadau o ddeunyddiau nad yw diwydiannau o reidrwydd yn gallu eu defnyddio, a bydd yn rhan o'r Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd – menter ar y cyd rhwng Prifysgol Caerdydd a'r cwmni technoleg IQE.
Mae gwaith ymchwil yr Athro Huffaker yn canolbwyntio ar ddatblygu deunyddiau unigryw a fydd yn arwain at gynhyrchu dyfeisiau newydd sydd â swyddogaethau newydd. Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei gwaith arloesol ar led-ddargludyddion cyfansawdd a datblygu deunyddiau 'dot cwantwm' arloesol, a gaiff eu defnyddio ym meysydd optoelectroneg a ffiseg laser. Yn ddiweddar, fe wnaeth graddedigion o labordy'r Athro Huffaker yn California sefydlu is-gwmni i fasnachu gwaith ymchwil y labordy yn dderbynyddion electronig hynod sensitif.
Meddai'r Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Mae'r Athro Diana Huffaker wir yn ymchwilydd heb ei hail, gyda rhagoriaeth ymchwil mewn meysydd sy'n cael effaith fyd-eang ac sydd o bwysigrwydd strategol, nid yn unig i Brifysgol Caerdydd, ond i Gymru gyfan. Bydd yr Athro Huffaker a'i thîm yn helpu i ysgogi arloesedd a thwf economaidd. Bydd denu gwyddonydd mor amlwg yn ei maes yn rhoi Cymru ar y map fel canolfan yn y DU ar gyfer arloesedd ac ymchwil i dechnoleg lled-ddargludyddion.
Dywedodd yr Athro Huffaker: "Mae bod yn Gadeirydd Deunyddiau ac Uwch-beirianneg Sêr Cymru yn gyfle unigryw i feithrin rhagoriaeth academaidd o ran meysydd sydd eisoes yn gryfder yng Ngholeg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg, trwy sefydlu partneriaethau gydag IQE a chwmnïau bach yng Nghymru.
"Gweledigaeth fy ngwaith ymchwil yw defnyddio ffiseg nano i gasglu a throsglwyddo gwybodaeth gan ddefnyddio golau gyda chyflymder a sensitifrwydd eithriadol. Gyda buddsoddiad Sêr Cymru, byddaf yn adeiladu cyfleuster estynedig i ddefnyddwyr ar gyfer deunyddiau a synthesis nanostrwythur nad yw ar gael yn y DU ar hyn o bryd. I fodloni anghenion diwydiant a chydweithwyr academaidd, bydd y labordy hwn yn cynnwys hyblygrwydd i roi cynnig ar syniadau newydd, systemau deunyddiau newydd a methodoleg twf newydd."
Yr Athro Huffaker yw'r pedwerydd Athro i gael ei phenodi o dan raglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru, sef menter pum mlynedd i ddenu a chefnogi ymchwilwyr gwyddonol o'r radd flaenaf a'u timau i Gymru. Penodwyd yr Athro Andrew Barron yn Gadeirydd Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd ym Mhrifysgol Abertawe, mae'r Athro James Durrant wedi'i benodi'n Gadeirydd Ymchwil Ynni Solar ym Mhrifysgol Abertawe hefyd, a phenodwyd yr Athro Yves Barde yn Gadeirydd Ymchwil Niwrofioleg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth: "Mae'n bleser gennyf groesawu'r Athro Huffaker i Gymru. Mae ganddi gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd er mwyn arwain yr uned ymchwil i led-ddargludyddion yng Nghaerdydd. Yr Athro Huffaker yw'r pedwerydd ymchwilydd blaenllaw i ddod i Gymru o dan ein rhaglen Sêr Cymru, sy'n rhoi hwb anferthol i allu ymchwil y wlad. Mae gallu ymchwil cryf ym maes gwyddoniaeth yn hanfodol ar gyfer gwella ein lles economaidd a sicrhau dyfodol ffyniannus, iach a chynaliadwy i Gymru."
Yn ôl yr Athro Julie Williams, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth Cymru: "Mae'n bosibl i ymchwil i dechnoleg lled-ddargludyddion ysgogi datblygiadau ar draws sawl maes, gan gynnwys diwydiant, gofal iechyd a chyfathrebiadau. Bydd penodi'r Athro Huffaker yn rhoi hwb i enw da cynyddol Cymru yn y maes hwn. Bydd peiriannydd benywaidd mor flaenllaw hefyd yn esiampl dda i ferched ifanc yng Nghymru."